Mae angen newid y ffordd y mae meddygon yn trin pwysedd gwaed, yn ôl ymchwil newydd yng nghylchgrawn meddygol y Lancet.
Mae angen ystyried newidiadau ysbeidiol mewn pwysedd gwaed yn ogystal â’r pwysau gwaed cyffredinol, meddai ymchwilwyr yn Ysbyty Radcliffe, Rhydychen.
Hyd yma, mae meddygon wedi ystyried mae cynnydd ym mhwysedd gwaed arferol claf sy’n achosi’r peryg o strôc ond fe allai’r gwaith newydd newid hynny.
Yr ymchwil
Dan arweiniad yr Athro Peter Rothwell, mae’r ymchwilwyr wedi cynnal astudiaeth o gleifion ac wedi edrych yn ôl tros ymchwil y gorffennol cyn argymell bod angen ystyried newidiadau mewn pwysedd a pha mor uchel y mae’r pwysedd gwaed yn mynd.
Yn ôl yr ymchwil, does dim digon o wybodaeth chwaith am effaith cyffuriau ar yr amrywiadau hyn er bod tystiolaeth bod rhai cyffuriau’n gweithio’n well na’i gilydd wrth atal y peryg o strôc.
Ar hyn o bryd, fe fydd doctoriaid yn ceisio tawelu cleifion sy’n dangos cynnydd tros-dro yn eu pwysedd gwaed – yr awgrym yn yr ymchwil yw bod angen eu monitro tros gyfnod a cheisio cael pwysedd gwaed sefydlog.
Llun: Prawf pwysedd gwaed – y llun o’r Lancet