Fe fydd £4.6 miliwn yn cael eu gwario i helpu pobol ifanc o gymunedau’r Sipsiwn ar draws de Cymru i ddatblygu sgiliau ar gyfer byd gwaith.
Roedd astudiaethau wedi dangos bod plant teithwyr yn gwneud yn salach yn addysgol ac felly dan anfantais wrth geisio cael gwaith.
Mae disgwyl i tua 450 o bobl ifanc rhwng 11 a 19 oed elwa o’r cynllun sy’n cael ei arwain gan Gyngor Sir Benfro, ond yn cael ei weithredu hefyd yn siroedd Caerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Thorfaen.
Mae £2.5 miliwn o’r arian wedi dod o’r Undeb Ewropeaidd drwy Lywodraeth y Cynulliad, a’r gweddill gan y Llywodraeth a’r awdurdodau lleol.
‘Anfanteision’
Yn ôl Arweinydd Cyngor Sir Benfro, y Cynghorydd John Davies, mae astudiaethau dros y pum mlynedd diwethaf wedi dangos bod Teithwyr yn “tangyflawni’n addysgol”, ac o ganlyniad yn “dioddef anfanteision wrth geisio cael gwaith”.
Dywedodd mai’r gobaith yw y bydd y rhaglen newydd yma yn “annog” y teithwyr i “gymryd rhan ym myd addysg”.
Llun: Logo elusen y Teithwyr – Friends, Families and Travellers