Fe fydd gweithwyr achub a’r rhai a fu’n clirio ar ôl ymosodiad Medi 11 yn Efrog Newydd yn cael cynnig cyfanswm o iawndal gwerth $675.5 miliwn.
Fe fydd yr arian yn iawndal am afiechydon sydd wedi effeithio arnyn nhw – mae llawer yn cwyno am broblemau anadlu a rhai’n hawlio eu bod yn dioddef o glefydau mwy difrifol, gan gynnwys canser.
Llun: AP Photo
Fe ddaeth y cynnig ychydig wythnosau cyn y byddai achosion llys yn dechrau i drafod iawndal ac fe fydd rhaid iddo gael ei dderbyn gan farnwr a 95% o’r gweithwyr. Mae rhai o’r rheiny’n honni eu bod wedi eu hanfon i safle ‘Ground Zero’ heb offer addas.
Mae’r cynnig wedi ei wneud gan gorff o’r enw’r WTC Capital Insurance Co. a gafodd ei greu’n unswydd i ddelio gyda cheisiadau am iawndal yn erbyn dinas Efrog Newydd a chontractwyr adeiladu.
Fe fydd yr arian yn dod o gronfa ganolog yr asiantaeth sy’n delio gydag argyfyngau ar draws yr Unol Daleithiau.
‘Ateb teg’
Yn ôl Maer Efrog Newydd, Michael Bloomberg, mae’r cynnig yn “ateb teg a rhesymol i gasgliad cymhleth o amgylchiadau”.
Roedd cynrychiolydd cyfreithiol y gweithwyr hefyd yn dweud bod y cynnig yn “gytundeb da”.
“R’yn ni’n falch bod y dynion a’r menywod arwrol yma, a weithiodd heb ystyried yr effaith ar eu hiechyd, yn derbyn iawndal cyfiawn am eu poen, eu dioddefaint a’u colli cyflog,” meddai.