Mae archwiliad post-mortem i farwolaeth dyn 64 oed a gafodd ei “boenydio i farwolaeth” gan griw o bobol ifanc yn “amhendant” meddai’r heddlu heddiw.
Daethpwyd o hyd i David Askew, 64, yn farw y tu allan i’w gartref yn Hattersley, Manceinion, nos Fercher, ar ôl i’r heddlu gael eu galw yno.
Meddai llefarydd ar ran Heddlu Manceinion: ”Mae canlyniadau archwiliad post-mortem i farwolaeth David Askew yn amhendant. Bydd rhaid cynnal profion pellach i bennu union achos ei farwolaeth.”
Arestio a holi
Fe gafodd dyn 18 oed ei arestio neithiwr ynglŷn â’r farwolaeth ac mae’n cael ei holi am gyhuddiad posib o ddynladdiad.
Roedd yr heddlu’n ymateb i adroddiadau bod criw ifanc yn aflonyddu ar David Askew a’i deulu – roedd yn byw gyda’i frawd Brian a’i fam fethedig Rose.
Mae Prif Uwch-arolygydd gyda Heddlu Manceinion, Zoe Hamilton, wedi cadarnhau fod rhai o’r bobl ifanc eisoes wedi derbyn gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cwyn am yr heddlu
Yn y cyfamser, fe ddaeth yn amlwg bod yr heddlu wedi cael rhybudd flynyddoedd yn ôl bod David Askew yn cael ei dargedu gan griwiau o bobol ifanc. Fe ddywedodd un cymydog ei fod wedi’i “boenydio i farwolaeth”.
Mae’r heddlu wedi cyfeirio’r honiadau hynny at Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu. Mae Heddlu Manceinion yn mynnu eu bod wedi gwneud “popeth” o fewn eu gallu i ddiogelu David Askew.
Llun: Heddlu o flaen cartref David Askew (Gwifren PA)