Mae dau fom a ffrwydrodd o fewn eiliadau i’w gilydd ym Mhacistan wedi lladd 39 o bobol – yr ymosodiad mwya’ difrifol mewn cyfres.
Dyma’r pedwerydd ymosodiad o’r fath yn y wlad yr wythnos yma, ac maen nhw’n cael eu gweld yn arwydd bod gwrthryfelwyr Islamaidd yn ailddechrau eu hymosodiadau o ddifri ar ôl cyfnod cymharol dawel.
Digwyddodd ffrwydradau heddiw yn ninas Lahore, mewn ardal brysur, ble mae adeiladau nifer o asiantaethau diogelwch.
Dau hunanfomiwr ar droed oedd yn gyfrifol, yn ôl tystion, ac roedden nhw wedi ffrwydro eu hunain yn ymyl cerbydau byddin Pacistan.
Yn ogystal â’r 39 o bobol a fu farw, mae adroddiadau fod o leiaf 100 o bobol wedi cael eu hanafu hefyd. Mae amheuaeth taw’r Taliban ac al-Qaida sy’n gyfrifol.
Ymosodiadau cyson
Mae ymosodiadau gan wrthryfelwyr Islamaidd wedi digwydd yn gyson ym Mhacistan ers blynyddoedd ond maen nhw wedi cynyddu ers i’r fyddin geisio sathru ar wrthryfelwyr al-Qaida a’r Taliban yng ngogledd-orllewin y wlad.
Yn ôl un amcangyfri’ mae ymosodiadau o’r fath wedi lladd 600 o bobol ers mis Hydref 2009.
Yn ddiweddar, roedd yr ymosodiadau wedi cael eu cyfyngu i ardaloedd mwy gwledig yn agos i Afghanistan, ond mae Lahore wedi cael ei tharo ynghynt yr wythnos yma.
Fe fu ymosodiadau eraill yr wythnos hon ar swyddfeydd elusen yn ardal Manshera ac ar sinema fechan yn ninas Peshawar. Roedd cyfanswm y marwolaethau’n 23.
Llun: Cerbyd wedi’i ddifrodi yn y ffrwydradau (AP Photo)