Mae benthyciadau ar gyfer morgeisi wedi plymio 49% yn ystod mis Ionawr, ar ôl i’r dreth stamp gael ei chodi’n ôl i’w trothwy arferol.
Dim ond 32,000 o fenthyciadau, gwerth £4.7 biliwn, a gafodd eu rhoi yn ystod y mis yn ôl y Cyngor Benthycwyr Morgeisi (CML) – tua hanner yr hyn a welwyd ym mis Rhagfyr.
Yn ôl y CML, mae’r ffigurau yn adlewyrchiad amlwg o effaith adfer y dreth brynu tŷ i’w throthwy arferol – roedd y trothwy wedi ei godi er mwyn ei gwneud hi’n haws prynu tai ym mhen isa’r farchnad.
Ond er y gwymp, roedd nifer y benthyciadau’n uwch na’r 23,000 a welwyd yn ystod yr un cyfnod yn 2009.
Brysio
Roedd y gwymp ym mis Ionawr eleni yn arbennig o amlwg ymysg y nifer oedd yn prynu tŷ am y tro cyntaf. Disgynnodd y nifer yn y grŵp yma 54% i 11,300.
Y prif reswm am hyn yn ôl y CML, oedd bod prynwyr tro cyntaf wedi brysio i brynu tai cyn diwedd mis Rhagfyr, cyn adfer y trothwy treth.
Yn ôl cyfarwyddwr cyffredinol y CML, Michael Coogan, does dim disgwyl llawer o welliant yn y sector fenthyca dros y misoedd nesaf, oherwydd ansicrwydd ynglŷn â chyflwr yr economi ac oherwydd bod Etholiad Cyffredinol ar y gweill.