Cynyddu maint testun

Golwg360



Ymgeisydd rhyddfrydol iawn i’r Democratiaid

Mawrth 12, 2010 13:02

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi gorfod amddiffyn un o ymgeiswyr seneddol ei blaid – cyn gynhyrchydd ffilmiau pornograffig.

Fe fydd Anna Arrowsmith – neu Anna Span fel roedd hi’n cael eu hadnabod yn y diwydiant adloniant oedolion – yn sefyll am sedd Gravesham yng Nghaint.

Mae Nick Clegg wedi cyfaddef mai newydd glywed am ei chefndir y mae, ond dywedodd fod “yr arwyddion yn dangos” y bydd hi’n “ymgeisydd cryf”.

Dyw hi ddim yn ymgeisydd Seneddol traddodiadol cyfaddefodd, ond mae hi’n berson sy’n poeni’n fawr am ei hardal leol, a dyna’r math o berson sydd ei angen yn Nhŷ’r Cyffredin.

250 o ffilmiau

Anna Arrowsmith, 38, yw prif weithredwr y cwmni adloniant oedolion, Easy on the Eye Productions.

Mae hi wedi cyfarwyddo mwy na 250 o ffilmiau gan ennill gwobr y cynhyrchydd gorau yng Ngwobrwyon Ffilmiau a Theledu Oedolion 2008 a 2009.

Mae hi hefyd wedi ysgrifennu llyfr ar gyfer cyplau sydd am wneud ffilmiau pornograffi gartref.