Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud na fydd y blaid yn gwneud cytundeb ymlaen llaw cyn yr Etholiad Cyffredinol.
Fe ailadroddodd Nick Clegg ei awgrym cynharach y byddan nhw’n cefnogi’r blaid sydd â mwyafrif y seddi, gan mai honno fydd â’r “mandad moesol” i lywodraethu petai senedd grog.
Wrth siarad ar y teledu ar ddechrau cynhadledd wanwyn y Democratiaid Rhyddfrydol yn Birmingham, fe ddywedodd y byddai gan y Democratiaid Rhyddfrydol bedwar prif bolisi y bydden nhw am eu cael mewn trafodaethau gyda phlaid arall.
• Trethi tecach, a neb yn talu ar eu £10,000 cyntaf.
• Gwell ysgolion, gyda dosbarthiadau llai a mwy o ddysgu un ac un.
• Gwneud yn sicr nad yw’r economi wedi ei dal yn wystl gan y banciau.
• Gwleidyddiaeth lân a theg, gan gynnwys rhoi’r grym i bobol i roi sac i ASau sydd wedi camymddwyn.
Ymgeisydd rhyddfrydol – dros ben yn fan hyn