Mae mam a llystad merch wedi’u carcharu heddiw am ddynladdiad eu merch 7 oed a lwgodd i farwolaeth.
Fe gafodd mam Khyra Ishaq – Angela Gordon, 35 – garchar am 15 mlynedd, ac fe gafodd ei chyn bartner Junaid Abuhamza, 31, gyfnod amhenodol yn y carchar gyda gorchymyn i gael ei gadw’n gaeth am o leia’ saith a hanner o flynyddoedd.
Roedden nhw wedi pledio’n euog i ladd eu merch ac i nifer o gyhuddiadau o greulondeb at blant yn eu gofal. Roedd y rheiny hefyd wedi’u llwgu a’u cam-drin.
Fe ddywedodd y barnwr, y Cymro Roderick Evans, bod creulondeb eu trefn ddisgyblu’n “iasoer ac erchyll.”
Geiriau’r barnwr
“Nid yw’n iawn dweud bod y plant hyn wedi dioddef o esgeulustod. Mae esgeulustod yn ddisgrifiad annigonol ac amhriodol,” meddai Roderick Evans.
Roedd y drefn, meddai, wedi ei chyflwyno i ddechrau gan Abuhamza, gan ei bod wedi tarddu o’i fagwraeth yntau ond roedd Angela Gordon wedi dod yn rhan o’r drefn hefyd.
Roedd creulondeb Angela Gordon yn “ddychrynllyd” ac yn waeth am ei bod yn fam i Khyra – “fe fu farw o newyn mewn tŷ lle’r oedd digonedd o fwyd.”
Y Cefndir
Bu farw Khyra Ishaq ym mis Mai 2008 o afiechyd ar ôl newynu am fis yn ei chartref yn Handsworth, Birmingham. Roedd wedi colli 40% o bwysau ei chorff.
Fe ddioddefodd Khyra drefn ddisgyblu oedd yn cynnwys sefyll y tu allan yn yr oerfel neu o flaen ffan oer am gyfnodau hir cyn cael dŵr oer wedi’i arllwys drosti a’i tharo gyda ffon bambŵ.
Cosb arall ganolog oedd llwgu dros gyfnod hir. Dyna pam yr oedd Khyra yn edrych “fel sgerbwd” adeg ei marwolaeth a dyna pam ei bod wedi methu â gwrthsefyll yr haint a’i lladdodd.
Cam-drin
Fe gafodd y Rheithwyr weld cyfres o ffotograffau o du mewn cartref Khyra Ishaq gan gynnwys cegin gyda chypyrddau llawn bwyd. Ond, roedd y gegin wedi’i chloi gyda bollt oedd allan o afael y plant, meddai’r erlynydd.
Adeg prydau bwyd, byddai powlen yn cynnwys moron, ffa, wyau, reis neu uwd yn cael ei rhoi o flaen y pump ar y llawr yn yr ystafell ble’r oeddent yn cysgu ar fatresi noeth.
“Os oedd plentyn yn bwyta gormod, yna byddent yn cael eu taro gyda ffon”
meddai’r erlynydd.
Roedd Khyra Ishaq mor denau ym mis olaf ei bywyd nes ei bod yn amhosibl mesur ei indecs corff ar unrhyw siart.
Llun: Angela Graham – “creulondeb dychrynllyd”