Fe fydd yr ymchwiliad i ddau blismon sydd wedi’u cyhuddo o geisio meddwi bachgen ifanc er mwyn ei gael i gyffesu yn cael ei ledu i gynnwys Heddlu De Cymru i gyd.
Fe gyhoeddodd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu y byddan nhw bellach yn cymryd gofal o’r ymchwiliad i achos Sean Martin Wall ac yn edrych ar bolisïau’r llu wrth ddelio â phobol fel ef.
Mae’n ymddangos bellach bod Sean Wall wedi gofyn i lys barn ystyried troseddau yr oedd wedi cyffesu iddyn nhw – er ei fod dan glo pan gawson nhw’u cyflawni.
Cyffesu
Yr awgrym yw bod heddlu’n defnyddio’r arfer o gael troseddwyr i gyffesu er mwyn iddi ymddangos eu bod yn datrys rhagor o droseddau.
“Mae hyn yn codi cwestiynau am effeithiolrwydd y dull yma ac a yw’n bosib ei gamddefnyddio gan swyddogion unigol,” meddai’r Comisiynydd tros Gymru, Tom Davies.
“Dw i bellach wedi penderfynu ehangu sgôp yr ymchwiliad i edrych ar yr arfer o ‘ystyried troseddau eraill’.
“Dw i felly eisiau i’r Comisiwn edrych ar bolisïau’r llu a goruchwyliaeth y rheolwyr.”
‘Ystyried troseddau’ – y cefndir
Pan fydd heddlu’n amau fod gan garcharor gysylltiadau gyda throseddau eraill, fe allan nhw ei holi am y rheiny.
Os bydd y carcharor yn cyffesu, bydd modd eu hystyried pan fydd o flaen llys am droseddau tebyg.
O ganlyniad, bydd y troseddau hyn yn cael eu cofnodi fel rhai wedi eu datrys yn ystadegau’r heddlu.
Sean Wall – y cefndir
Pan gafwyd y llanc 17 oed yn euog o drosedd ddifrifol, fe honnodd ei gyfreithiwr bod dau dditectif gwnstabl o Heddlu De Cymru wedi ceisio’i gael i gyffesu i droseddau nad oedd wedi’u cyflawni.
Roedd yr honiadau’n cynnwys:
Rhoi alcohol iddo i geisio’i gael i gyffesu.
Peidio â chynnig cymorth cyfreithiwr iddo.
Caniatáu iddo fynd i weld ei deulu tra oedd yn y ddalfa.
Peidio â chaniatáu i berson bregus gael oedolyn gydag ef.
Anwybyddu rheolau’r heddlu ar gyfer cyfweliadau.
Roedd y cyfan wedi digwydd rhwng 25 a 26 Chwefror pan aeth y swyddogion â Sean Wall o’r carchar a mynd ag ef o amgylch Caerdydd i drafod troseddau eraill.
Gymaint ag 14 awr ar ôl gadael y carchar, roedd Sean Wall, sy’n diodde’ o afiechyd meddwl a chyflwr methu canolbwyntio, tros drothwy yfed a gyrru.
Yn ôl ei gyfreithiwr, yn hytrach nag aros i Sean Wall fod yn ffit i’w holi, roedd y ddau blismon wedi mynd ati’n fwriadol i wneud yn siŵr nad oedd.
Ar y dechrau Heddlu De Cymru oedd i fod i gynnal yr ymchwiliad ond mae hynny wedi newid bellach.
Llun: Swyddfa heddlu Bae Caerdydd, lle cafodd Sean Wall ei gadw