Mae 13 o gyfreithwyr adnabyddus wedi sgrifennu llythyr agored yn galw ar y Llywodraeth i gadw ei haddewid i gadarnhau statws swyddogol y Gymraeg ac i gryfhau’r Mesur Iaith newydd.
Yn y llythyr yng nghylchgrawn Golwg, mae’r 13 yn mynnu nad yw’r Mesur Iaith newydd yn cyflawni hynny nac yn cadw at addewid arall yn rhaglen waith Llywodraeth Llafur-Plaid Cymru.
“Mae’r Mesur wedi’i lunio mewn modd sy’n cymryd yn ganiataol bod y Gymraeg eisoes yn meddu ar rywfaint o statws swyddogol,” meddai’r llythyr.
“Credwn fod angen datganiad clir a diamwys mewn deddf gwlad fod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru er mwyn gwireddu hynny a, hyd yn hyn, ni chafwyd datganiad o’r fath.”
Hawliau
Yn ôl y cyfreithwyr, dyw’r Mesur chwaith ddim yn cyflawni’r addewid o sefydlu hawliau i dderbyn gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg – yn hytrach fe fydd safonau’n cael eu gosod ar gyfer gwahanol gyrff a chwmnïau.
“Nid yw gosod safonau o’r fath, er gwaetha’r ffaith y bydd eu torri yn medru arwain at gosbau, gyfystyr â sefydlu hawliau i unigolion,” meddai’r llythyr.
“Ofnwn fod y Mesur yn greadur llai effeithiol nag y gallasai fod i ddylanwadu’n gadarnhaol ar yr hinsawdd ieithyddol yng Nghymru. Galwn ar Lywodraeth Cymru i fynd ati i ystyried cryfhau’r Mesur hwn.”
Mae’r cyfreithwyr yn cynnwys Emyr Lewis, y cyn Archdderwydd Robyn Léwis, y Barnwr Dewi Watkin Powell a’r Arglwydd Gwilym Prys Davies.
Y llythyr yn llawn yn Golwg yr wythnos yma.
Llun: Robyn Lewis, un o’r cyfreithwyr sydd wedi arwyddo’r llythyr