Mae cwmni John Lewis yn honni eu bod nhw wedi gwerthu teledu bob 30 eiliad yr wythnos diwethaf wrth i bobl baratoi ar gyfer Cwpan y Byd.
Roedd 36.4% yn fwy o setiau teledu wedi eu gwerthu na’r flwyddyn flaenorol, wrth i bobol edrych ymlaen at y gystadleuaeth pêl droed fydd yn cychwyn yn Ne Affrica’r wythnos nesaf.
Mae cwmni archfarchnadoedd Waitrose hefyd wedi gweld cynnydd mewn gwerthiant.
Roedd gwerthiant Waitrose yr wythnos diwethaf lan 12.4% gyda nifer o siopwyr yn prynu cynnyrch o Dde Affrica.
Mae gwerthiant gwinoedd o’r wlad wedi cynyddu 62% ar y llynedd, gyda chynnyrch barbeciw o Dde Affrica hefyd yn boblogaidd.
Dywedodd John Lewis bod gwerthiant ym mhob un o’u siopau yn fwy mewn cymhariaeth â ffigurau llynedd, gyda gwerthiant yr wythnos yma wedi cychwyn yn gryf hefyd.
Mae Freddie George, dadansoddwr manwerthu gyda Seymour Pierce yn credu bod y ffigurau yma’n dangos bod pobl yn barod i wario er gwaethaf y pryderon economaidd.
Darllenwch ymdriniaeth Golwg 360 o Gwpan y Byd 2010.