Cynyddu maint testun

Golwg360



iSteddfod ar gael i’w lawrlwytho

Gorffennaf 2, 2010 13:58

Mae ‘app’ ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol bellach ar gael i’w lawrlwytho ar yr iPhone.

Bydd ymwelwyr Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn gallu defnyddio’u ffôn symudol i gael gwybodaeth ddefnyddiol am yr hyn sydd ar gael yno.

Mae modd llwytho’r ‘app’ iSteddfod i’r iPhone neu’r iPod touch, a fydd yn dangos gwybodaeth am ddigwyddiadau’r ŵyl, yn ogystal â darparu map o’r maes a’r stondinau.

Bydd angen ailgychwyn yr app o dro i dro, yn ôl y darparwyr, gan y bydd gwybodaeth yn cael ei ddiweddaru nawr ac yn y man cyn ac hyd yn oed yn ystod yr Eisteddfod.

Mae Eisteddfod Genedlaethol 2010 yn cael ei chynnal yng Nglyn Ebwy rhwng 31 Gorffennaf a 7 Awst.