Mae Caerdydd wedi mynnu nad ydyn nhw wedi clywed dim oddi wrth Fulham ynglŷn â Dave Jones a’r swydd wag yn Craven Cottage.
Yn dilyn penderfyniad rheolwr Ajax, Martin Jol i aros yn Amsterdam, fe gafodd rheolwr yr Adar Gleision ei enwi’n yn ffefryn i olynu Roy Hodgson yn rheolwr Fulham gan y cwmnïau gamblo.
Ond mae Caerdydd wedi cyhoeddi nad yw clwb yr Uwch Gynghrair wedi cysylltu gyda nhw na Dave Jones ynglŷn â’r swydd.
“Fel arfer, mae Dave Jones yn canolbwyntio’n llwyr ar baratoi ar gyfer y tymor newydd,” meddai Caerdydd mewn datganiad.
Dyled arall
Yn y cyfamser, mae Prif Weithredwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, Gethin Jenkins wedi dweud bod y clwb yn awyddus i ddatrys y mater ynglŷn â’r ddyled y maen nhw eto i’w thalu i Motherwell am drosglwyddiad Paul Quinn i’r Adar Gleision yr ha’ diwetha’.
Roedd Motherwell wedi galw ar Gaerdydd i dalu eu dyled ar ôl i’r Albanwyr aros ers mis Ionawr eleni am y swm o arian.
“R’yn ni’n ymwybodol o’r ddyled i Motherwell ac yn gweithio i ddatrys y mater cyn gynted ag sy’n bosib,” meddai.