Cynyddu maint testun

Golwg360



Dwyn o’r maes carafanau

Gorffennaf 31, 2010 17:04

Mae trefnwyr yr Eisteddfod wedi cadarnhau fod adroddiadau am achosion o ddwyn o faes carafanau’r Brifwyl.

Fe ddywedodd llefarydd bod rhagor o swyddogion diogelwch yn cael eu hanfon i’r safle sydd tua thair milltir o’r Maes.

Ond, yn ôl y Trefnydd, Hywel Wyn Edwards, doedd dim yn anarferol mewn digwyddiadau o’r fath.

Mae Golwg360 yn deall fod beiciau wedi dwyn o adlenni carafanau ond doedd gan yr Eisteddfod ei hun ddim manylion.

Mae’r maes carafanau ar ffordd Blaenau’r Cymoedd ar safle Parc Gwledig Bryn Bach lle’r oedd Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni wedi ei chynnal yn 1990.

Llun: Safle Bryn Bach (o wefan Cyngor Blaenau Gwent)