Mae rhai o drigolion maes carafannau’r Eisteddfod yn feirniadol o’r diffyg trafnidiaeth oddi yno i Faes B, gan ddweud ei fod o wedi eu hatal nhw rhag mynd.
Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol “nad oedd bws wedi’i drefnu o Faes B i’r maes carafanau ddechrau’r wythnos gan na chafwyd defnydd ohono yn y gorffennol”.
Fe wnaethon nhw hefyd ddweud y byddai’r Eisteddfod yn “ail-asesu’r sefyllfa yn nes ymlaen yn yr wythnos”.
Mae myfyrwraig o Aberystwyth sy’n dod i’r eisteddfod “bob blwyddyn” wedi dweud ei bod wedi penderfynu peidio â mynd i gigs maes B oherwydd y byddai tacsis yn profi’n rhy ddrud petai’n gwneud hynny am weddill yr wythnos.
Fe ddywedodd Siriol Teifi sy’n dod o Landysul wrth Golwg360 ei bod wedi penderfynu peidio â mynd i Faes B “o gwbl eto” am nad oedd ffordd iddi fynd yno a nol gyda’r nos.
Mae Siriol Teifi wedi bod yn aros yn y Maes Carafanau ers dydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod.
Roedd ei ffrindiau ar y maes carfannau oll wedi cael yr un broblem, meddai.
“Fe fyddai cael tacsi drwy’r wythnos yn rhy gostus,” meddai cyn dweud nad oedd yn gwybod pa mor bell oedd y maes carafanau o Faes B.
“Ro’ ni’n meddwl y byddwn i’n gallu cerdded yno,” meddai cyn dweud “falle” y byddai wedi ystyried cael tent ar y Maes Ieuenctid petai’n gwybod am y pellter.
“Gobeithio y bydd yr Eisteddfod yn trefnu trafnidiaeth erbyn diwedd yr wythnos – fel y digwyddodd yn Abertawe,” meddai.