Mae wedi bod yn “flwyddyn fythgofiadwy” i un o gerddorion Cymru ar ôl iddo fod yn teithio’r byd ar long yn diddanu teithwyr.
Heddiw canodd Ynyr Llwyd yn Gymraeg am y tro cyntaf ers pedwar mis, wrth berfformio ar un o lwyfannau maes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Un cyfle a ddaeth iddo ganu yng Nghymraeg ar ei fordaith, a hynny ym Mhortiwgal.
“Roedd rheolwr y llong yn gwybod fod yr ardal roedden ni ynddi’n amlddiwylliannol ac fe ofynnodd i mi ganu yn Gymraeg,” meddai.
“Dyna pryd daeth yr hiraeth yn ôl. Dyna’r tro cyntaf mewn tua thri mis o fod dramor i mi ganu yn Gymraeg.
“Ac er mod i’n ymwybodol nad oedden nhw yn deall dim, roedd hi’n braf eu bod nhw’n gwerthfawrogi,” meddai Ynyr Llwyd wrth Golwg360.
Ffrwydro
Fe wnaeth Ynyr Llwyd ryddhau y cryno ddisg Rhwng Gwyn a Du fis Rhagfyr, ac ers hynny mae wedi bod yn teithio’r byd gyda The Right Stuff, band o Bolton.
“Ers haf y llynedd, mae popeth wedi ffrwydro,” meddai Ynyr Llwyd gan ddweud ei fod o wedi canu yn Dubai, Florida a rhai gwledydd eraill.
Dywedodd ei fod o’n “gam mawr mynd i chwilio am waith dros y ffin” ond ei fod o wedi cymryd mantais o gyfle “anhygoel”.
“Fe wnes i neidio i mewn i’r pen dwfn – ond roedd o’n sicr yn her oedd o fudd i fi.”
Ond, wedi dod yn ôl, mae’n dweud ei fod o’n “mwynhau canu caneuon yn y Gymraeg unwaith eto”.
Y dyfodol
Roedd o’n ddiwrnod arbennig i deulu Ynyr Llwyd wrth i’w fam Leah Owen ennill Medal T H Parry Williams am ei chyfraniad gwirfoddol arbennig yn ei hardal leol.
Mae’r cerddor am barhau â chwrs M.A. cyfansoddi cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor fis Medi nesaf.
Mae hefyd yn bwriadu marchnata a hyrwyddo ei gryno ddisg diweddaraf a ryddhaodd fis Rhagfyr.
“Dw i isio bod yma’n gweithio arno,” meddai wrth Golwg360 cyn dweud y bydd yn chwilio am fand yn fuan.
Bydd o hefyd yn mwynhau mynd i’r afael “â dal i sgwennu cerddoriaeth ar ei liwt ei hun” ac efallai’n cynhyrchu cryno ddisg arall.
Fe fydd Ynyr Llwyd yn perfformio eto ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau, amser cinio.