Cynyddu maint testun

Golwg360



Helynt bysys Maes B’n parhau

Awst 5, 2010 13:55

Mae trefnwyr yr Eisteddfod yn dal i gael eu cyhuddo o fethu â threfnu bysys i fynd â phobol ifanc yn ôl o gigs i’r faes carafanau’r Brifwyl.

Mae pobol ifanc yn dweud bod rhai yn gorfod cerdded filltiroedd yn ôl yn y tywyllwch yn oriau mân y bore ac y gallai hynny fod yn beryglus iawn.

Er bod yr Eisteddfod yn mynnu eu bod wedi trefnu gwasanaeth gyda chwmni bysys lleol, mae pobol ifanc wedi dweud yn gyson nad oes dim ar gael.

Dim bws

Neithiwr, yn ôl un o’r bobol ifanc yng ngig Derwyddon Doctor Gonzo ym Maes B, roedden nhw wedi cael gwybod bod bws am 2.00 y bore, ond doedd dim un i’w weld.

Roedd stiwardiaid y maes carafanau – Maes C – wedi dweud wrthyn nhw’n ddiweddarach nad oedd yr un bws wedi bod ar ôl tua 11.15.

Ddechrau’r wythnos, roedd Golwg 360 wedi tynnu sylw at y diffyg ac fe addawodd yr Eistedfod y bydden nhw’n trefnu gwasanaeth. Ddoe, fe ddaeth neges yn atgyfnerthu hynny ac yn gofyn am gyhoeddiad clir bod bysys ar gael.

‘Trefniant wedi’i wneud’

Yn ôl Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, mae yna drefniant wedi’i wneud gyda chwmni lleol ac mae swyddogion yn ceisio cael gafael arnyn nhw er mwyn cael esboniad am yr hyn sy’n digwydd.

Y bwriad, meddai, oedd cael bysys i fynd i Faes B tua 2.00 y bore a dychwelyd yno nes bod pawb wedi cael eu cario.