“Dysgu’r iaith er mwyn magu fy mhlant” wnaeth enillydd lleol Dysgwr y Flwyddyn, Julia Hawkins o Grughywel.
Cyhoeddwyd ei henw mewn seremoni arbennig yn yr Eisteddfod Genedlaethol nos Fercher.
Dywedodd ei bod hi wedi byw mewn nifer o wledydd gwahanol gan ei bod hi a’i gwr Kevin yn gweithio i’r Cyngor Prydeinig.
Ond, roedd y ddau ohonynt yn benderfynol o fagu’u plant yng Nghymru a’u magu yng Nghymraeg.
“Mae ennill yn hwb mawr i mi barhau i ddysgu’r iaith ac i ddysgu fy mhlant yn ddwyieithog,” meddai wrth Golwg360.
Mae’n dweud mai “defnyddio’r iaith” Gymraeg sy’n bwysig iddi.
Fe gymrodd wyth mlynedd iddi ddysgu’r iaith, a dywedodd bod y broses wedi bod yn “her”.
Doedd hi ddim wedi mynd i nifer o wersi, ond yn hytrach wedi dysgu gan ffrindiau a thrwy ddefnyddio’r iaith o ddydd i ddydd.
Dysgu’r iaith
Bu Julia’n astudio’r Gymraeg yn yr ysgol, ond penderfynodd ddilyn trywydd gwyddonol, a rhoddodd y gorau i’r pwnc bryd hynny.
Ond parhaodd i gael rhywfaint o wersi y tu allan i’r ysgol a sefyll arholiad Lefel O.
Cafodd ei hysbrydoli gan ei dwy athrawes, Yvonne Matthews a Carys Whelan a thrwy ymdrechion y ddwy sylweddolodd bod y Gymraeg yn iaith fyw.
Mae’n rhan lawn o weithgareddau Cymraeg yn ei hardal a’i gobaith yn y dyfodol yw parhau i astudio Cymraeg a hyd yn oed dysgu ym Mhatagonia rhyw ddydd.
“Mae’r gystadleuaeth yn helpu dangos i bobl sydd heb drio dysgu’r Gymraeg bod pobl eraill yn llwyddo, ac yn bendant mae wedi fy ngwneud i’n fwy penderfynol nac erioed i wella fy Nghymraeg.”
Fe gyrhaeddodd Shirley Cottam, Helen Price a Dai Williams y rownd derfynol mewn cystadleuaeth ble cafwyd 20 o geisiadau am y wobr.
Yr enillydd y llynedd oedd Meggan Lloyd Prys o Rhiwlas, ger Bangor.