Cynyddu maint testun

Golwg360



Enillydd gwobr cyfieithu eisiau dod â Haiti i sylw’r cyhoedd

Awst 5, 2010 19:44

Mae enillydd cystadleuaeth her gyfieithu 2010 wedi dweud wrth Golwg360 ei bod yn “fraint” cael dod â sefyllfa ynys Haiti i sylw’r cyhoedd.

“Mae cymaint o ddioddefaint wedi bod yn Haiti. Mae’n fraint cael dod â’r peth i sylw pobl,” meddai Marged Haycock o Gapel Madog ger Aberystwyth.

Cyflwynwyd Ffon y Pencerdd i Marged gan y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones AC, yn ystod y seremoni heddiw.

“Roedd gwneud y stori yn fy annog i ddarllen mwy am y sefyllfa a’r ynys. Roedd diddordeb gen i yn yr ynys beth bynnag,” meddai.

“Mae’r stori wedi’i sgwennu o safbwynt merch ifanc. Roeddwn i’n ymwybodol fy mod i’n trio cyfleu arddull ffeithiol y ferch ifanc a’r digwyddiadau erchyll oedd yn digwydd iddi.”

Dywedodd y beirniad Gareth Miles bod y “stori yn dangos sut y mae’r ysbryd dynol yn mynnu byw”.

Dywedodd fod y gystadleuaeth yn un “ardderchog” a safon y cystadlu yn “uchel iawn”.

“Roedd cywirdeb yn bwysig” meddai ond roedd hi hefyd yn bwysig “creu’r argraff fod y darn wedi’i sgrifennu yn Gymraeg”.

Fe gafodd yr her gyfieithu ei sefydlu yn 2009 gan Dŷ Cyfieithu Cymru i hyrwyddo a dathlu’r cyfraniad gan gyfieithwyr i’r gwaith o hyrwyddo llenyddiaeth Cymru dramor.