Cynyddu maint testun

Golwg360



Angen codi ymwybyddiaeth o’r Eisteddfod

Awst 6, 2010 10:41

Mae enillydd gwobr Cân i Gymru’r llynedd wedi dweud ei fod o’n “hynod bwysig fod pobl ifanc yn cystadlu yn yr Eisteddfod”.

Cyn perfformio ar ail lwyfan maes y Brifwyl dywedodd Elfed Morgan Morris y byddai hynny’n sbardun i “gadw’r diwylliant a’r iaith yn fyw”.

Ond, roedd y cerddor yn siomedig nad oedd rhai pobl oedd yn byw yn lleol i faes yr Eisteddfod yn ymwybodol beth oedd yn mynd ymlaen.

“Fel athro Cymraeg ail-iaith, rydw i wedi gweld ffrwyth llafur gwaith caled dysgwyr yn yr ardal yma – ac mae o’n waith pwysig,” meddai Elfed Morgan Morris.

“Ro’ ni’n teimlo’n siomedig am mai dyna’r cyfle iddyn nhw fod yn rhan o’r peth,” meddai gan ddweud iddo stopio am betrol a sgwrsio gyda rhai o’r trigolion lleol.

Roedd “diffyg arwyddion i’r eisteddfod” yn bendant yn “broblem” meddai.

Ar hyn o bryd, mae’r canwr gyfansoddwr yn cyfansoddi caneuon newydd ac yn paratoi ar gyfer cyngherddau rhwng mis Medi a’r Nadolig.