Cynyddu maint testun

Golwg360



Lansio prosiect Termau Addysg Uwch ar y maes

Awst 6, 2010 14:29

Mae’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, wedi canmol prosiect newydd gan y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg fel “cam pwysig at gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg”.

Bwriad y prosiect ‘Termau Addysg Uwch’, a lansiwyd yn swyddogol ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol, yw datblygu cyfres o eiriaduron ar-lein a fydd yn canolbwyntio ar derminoleg arbenigol mewn meysydd addysg benodol.

Mae’r prosiect eisoes wedi dechrau, gyda geiriaduron o dermau ar gyfer meysydd fel Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Mathemateg ar waith yn barod, a’r bwriad yw datblygu mwy yn y dyfodol.

Roedd y Gweinidog Treftadaeth yn frwd iawn ei gefnogaeth i’r prosiect, gan longyfarch pawb sydd ynghlwm gydag ef am gymryd “cam pwysig ymlaen os ydyn ni am gynyddu’r nifer o bobl ifanc sy’n defnyddio’r Gymraeg”.

Dywedodd y Gweinidog fod y prosiect hefyd yn gyfraniad gwerthfawr iawn yng nghyd-destun y Mesur Iaith newydd, ac yn cyd-fynd “â’n strategaeth iaith ni dros y blynyddoedd nesaf”.

Yn y lansiad ddoe, bu’n trafod hefyd potensial hir-dymor y cynllun o safbwynt yr iaith. Wrth i’r prosiect roi geirfa arbenigol mewn man mwy cyraeddadwy i bobl, fe fydd yn adnodd defnyddiol er mwyn hwyluso gwaith ymchwil arbenigol drwy gyfrwng y Gymraeg, a’r gobaith yw y bydd yn bwydo i i mewn i ddatblygiadau rhaglen waith y Coleg Ffederal.