Tudur Hallam o Foelgastell, Sir Gaerfyrddin yw enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd eleni.
Dywedodd ei fod o wedi ysgrifennu’r awdl i gofio am Hywel Teifi Edwards.
Roedden nhw’n cydweithio yn Adran y Gymraeg yn Abertawe ac roedd Hywel Teifi wedi ei siarsio i ennill y Gadair i’r Adran.
Bu farw’r Athro Hywel Teifi Edwards ar 4 Ionawr 2010. Ymgais yw’r awdl i gofio amdano a gwerthfawrogi perthnasedd ei fywyd a’i weledigaeth i Gymru.
Dywedodd Hywel Teifi na chafodd erioed gynulleidfa fwy deallus na’r gwylanod a wrandawai arno’n ifanc yn adrodd cerddi ar draeth Aber-arth, a ‘Gwylan’ oedd ffug enw Tudur Hallam.
Mae’r awdl yn cyflwyno stori am hen ŵr ar ddydd Calan sy’n rhy barod i ddwrdio’r ifanc ac yn rhy araf i’w hysgogi. Ar un olwg, cynrychioli’r Cymro Cymraeg goddefol, drwgdybus, anobeithiol a chwynfanllyd y mae’r hen ŵr.
Neges yr wylan yn y gerdd yw bod yn rhaid iddo, os myn weld y Gymraeg yn ffynnu, newid ei ffordd o fyw, gan ddilyn esiampl yr athro gweithredol, yr Athro Hywel Teifi Edwards.
“Hwn yw bardd mwyaf gwreiddiol a beiddgar y gystadleuaeth. Mae’n cyfleu yn iasol wacter y Calan eleni yn dilyn colli Hywel Teifi Edwards,” meddai Robat Powell wrth draddodi’r feirniaidaeth o’r llwyfan.
“Yr Wylan biau’r awdl gryfaf ei hapêl a’i hergyd eleni. Mae’n awdl anghyffredin, yn gwbl deilwng o gadair y Brifwyl.”
‘Ennill Tir’ oedd testun y gystadleuaeth eleni, a thasg y 10 o gystadleuwyr oedd creu awdl mewn cynghanedd gyflawn heb fod dros 200 llinell.
Hanes Tudur
Yn Nhreforys, Abertawe y ganed Tudur Hallam, ac yn Abertawe y mae’n gweithio. Y mae’n uwch-ddarlithydd Cymraeg yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe.
Cafodd ei fagu ym Mhenybanc, Rhydaman, yn fab i Peter a Glesni Hallam ac yn frawd i Gwion a Trystan. Mynychodd Ysgol Gymraeg Rhydaman, ac o’r fan honno aeth i Ysgol Gyfun Maes-yr-Yrfa, Cefneithin.
Wedi sawl blwyddyn hapus yn ardal Brynmill, Abertawe, y mae heddiw’n byw ryw filltir o Faes-yr-Yrfa ym mhentref Foelgastell. Ei gariad oes, ers dyddiau ysgol, yw Nia, ac mae ganddynt ddau fab, Garan a Bedo.
Yn y chweched dosbarth y dechreuodd farddoni, a derbyn gan gyfeilles o athrawes ei chopi personol o lyfr John Morris-Jones, Cerdd Dafod i’w dywys ar ei daith gynganeddol.
Aeth i’r Brifysgol yn Aberystwyth ac enillodd y Gadair ddwywaith yn yr Eisteddfod Ryng-golegol. Yn 1995, enillodd y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, a Chadair yr Urdd yn 1999.
Y flwyddyn honno, fe’i penodwyd i’w swydd academaidd yn Adran y Gymraeg, Abertawe. Cwblhaodd yno ddoethuriaeth a dros ddegawd bellach bu’n cyfrannu at ddiwylliant ymchwil yr Adran.
Ar hyn o bryd y mae’n cyfarwyddo myfyrwyr ôl-radd ym maes llenyddiaeth ddiweddar, hunaniaeth genedlaethol a chyfieithu. Enillodd ei lyfr Canon Ein Llên Wobr Goffa Ellis Griffith yn 2009, ac ef yw deiliad presennol Ysgoloriaeth Goffa Saunders Lewis. Derbyniodd yn ddiweddar wahoddiad i gyd-olygu’r gyfres nodedig, Ysgrifau Beirniadol.
Y Gadair
Rhoddir y Gadair a’r wobr ariannol eleni gan Brifysgol Morgannwg. Dyluniwyd y Gadair a rheolwyd y prosiect gan ddau o staff Cyfadran y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol, Jeremy Spencer a Richard Randall, ac fe’i gwnaethpwyd gan Alex McDonald o Sir Benfro. Roedd Alex hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch, 2008.
Cadeirio’r Bardd yw’r olaf o brif seremon?au’r wythnos.
“Cawsom addewid o wythnos i’w chofio yma yng Nglyn Ebwy, a dyma’n union yr ydym wedi’i gael dros y dyddiau diwethaf,” meddai Prydwen Elfed-Owens, Llywydd newydd-etholedig Llys yr Eisteddfod.
“Rydym wedi gwobrwyo enillwyr arbennig, wedi mwynhau cystadlu heb ei ail ac wedi cael gweld mwy o weithgareddau o amgylch y Maes nac erioed o’r blaen.
“Mae pobl y Cymoedd wedi rhoi croeso ardderchog i ni, a rydym yn diolch iddyn nhw am eu brwdfrydedd a’u cefnogaeth. Rydym yn edrych ymlaen at Wrecsam y flwyddyn nesaf ac yn annog pobl i brynu’r Rhestr Testunau’n fuan er mwyn dechrau paratoi ar gyfer y cystadlu. Mae’r dyddiad cau cyntaf ddechrau Rhagfyr, felly dim ond ychydig fisoedd sydd i fynd.
“Yn y cyfamser, byddwn yn edrych yn ôl ar ein wythnos ym Mlaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd, a’r holl atgofion hapus sydd gennym. Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r llwyddiant eleni.”