Cynyddu maint testun

Golwg360



Galw am orsaf ‘gymunedol genedlaethol’

Awst 6, 2010 16:58

Roedd yna alwad heddiw am greu gorsaf radio gymunedol genedlaethol Gymraeg.

Y syniad fyddai creu un gwasanaeth craidd ar gyfer Cymru gyfan gyda chyfle i wahanol ardaloedd ‘dynnu allan’ am ychydig oriau a darlledu rhaglenni lleol.

Fe ddaeth yr awgrym mewn cyfarfod ar Faes yr Eisteddfod gan Gyfeillion Radio Ceredigion, sydd eisoes wedi mynegi diddordeb ffurfiol mewn creu gwasanaeth cymunedol newydd Radio’r Cardi.

Maen nhw wedi condemnio perchnogion newydd Radio Ceredigion am ddinistrio cymeriad dwyieithog yr orsaf honno – mae’r perchnogion yn gwadu hynny.

“Fyddai’r un orsaf radio gymunedol Gymraeg yn gallu cynnal ei hun 100% ond fe fyddai trefn o’r fath yn ei wneud yn bosibl,” meddai Cadeirydd Cyfeillion Radio Ceredigion, Geraint Davies.

Fe fyddai cyfle i gydweithio gydag asiantaethau eraill, meddai, ac fe fyddai’n cynnig cystadleuaeth i Radio Cymru, yn union fel y bydd gorsaf genedlaethol Real Radio – a gyhoeddwyd heddiw – yn cynnig cystadleuaeth i Radio Wales.

“Fe fyddai Radio Cymru’n elw o’r math yna o gystadleuaeth,” meddai Geraint Davies.