Mae myfyrwyr Cymraeg wedi galw ar Brifysgol Caerdydd ac undeb y myfyrwyr yno i drawsnewid ei hagwedd at y Gymraeg.
Roedd angen iddi ddangos mwy o barch at y Gymraeg, darparu mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg a datblygu polisïau cryf a chadarn o blaid yr iaith, medden nhw.
Mewn protest fechan ar faes yr Eisteddfod, fe ddywedodd eu llefarydd, Owain Lewis, bod y Brifysgol bellach heb gyfieithydd swyddogol ac mai arian bach oedd yn cael ei wario ar yr iaith.
Roedd yna brinder cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg – er gwaetha’r cannoedd o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith sydd yno.
Roedd pobol ifanc a oedd wedi dilyn eu cyrsiau trwy’r Gymraeg trwy gydol yr ysgol, yn gorfod rhoi’r gorau iddi ar ôl cyrraedd Prifysgol Caerdydd, meddai.
Roedd yn galw hefyd ar i Undeb y Myfyrwyr greu swydd yn benodol i hyrwyddo’r Gymraeg, yn union fel yr oedden nhw wedi creu swydd ar gampws y Coleg Meddygol sydd bellach yn rhan o’r brifysgol.