Fe fu cefnogwyr ymgyrch rhieni Ysgol Gynradd Treganna yn protestio o flaen pabell Llywodraeth y Cynulliad heddiw.
Roedden nhw’n ymgyrch yn erbyn gwrthwynebiad Prif Weinidog Cymru i gynlluniau ad-drefnu addysg a fyddai’n symud yr ysgol i leoliad gyda chyfleusterau gwell i’r 207 o ddisgyblion.
Prif neges y brotest oedd yr angen i’r Prif Weinidog edrych eto ar ei benderfyniad.
Ond yn ei araith i’r dyrfa, condemniodd Dafydd Wigley, Llywydd Anrhydeddus Plaid Cymru, y modd y gwnaeth y Prif Weinidog y penderfyniad.
Doedd o heb drafod dim â’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones meddai, a bod ei agwedd wedi tanseilio’r glymblaid yn y Cynulliad.
Roedd plant yr ysgol hefyd yn bresennol yn y brotest ac fe wnaethon nhw fynegu eu pryderon ar ffurf rap, a oedd yn gofyn pam nad oedd ganddyn nhw ysgol oedd yn ateb gofynion y disgyblion.
Er bod yr ysgol yn darparu addysg i 207 o ddisgyblion ar hyn o bryd, dim ond lle i 165 o blant sydd yno, a mae rhai yn derbyn eu haddysg mewn adeiladau dros dro.