Mae rhai o fusnesau Glyn Ebwy yn cwyno fod pethau wedi bod yn dawelach na’r arfer yn ystod wythnos yr Eisteddfod, er eu bod nhw wedi disgwyl prysurdeb mawr.
Dywedodd Samantha Dighton, o gaffi The Lunch Box yng Nglyn Ebwy fod pethau “wedi bod yn ddistawach” yn ystod wythnos yr Eisteddfod nag ar wythnos arferol.
“Roedden ni wedi cael gwybod y byddai’n brysurach. Ond roedd pethau’n waeth na’r arfer yr wythnos ddiwethaf,” meddai cyn dweud eu bod wedi paratoi am yr wythnos drwy gyflogi mwy o staff a chael rhagor o stoc.
“Hefyd, oherwydd bod pobl leol yn meddwl ei bod am fod yn brysur, fe wnaeth ein cwsmeriaid cyson gadw draw.
“Roedden ni wedi meddwl y bydden nhw’n gwneud mwy i ddenu pobol i ganol y dref,” meddai.
‘Y gwaethaf’
Roedd effaith yr Eisteddfod fel petai o wedi lledu tu hwnt i Lyn Ebwy hefyd.
Dywedodd Alison Powles o siop ddillad merched Susans yn nhref Tredegar mai’r wythnos ddiwethaf oedd y “gwaethaf” ers iddi gymryd rheolaeth o’r busnes tair blynedd yn ôl.
“Dw i’m yn credu eu bod nhw wedi ein hysbysebu ni o gwbl… Hefyd, os ydi rhywun yn talu pymtheg punt am docyn i’r eisteddfod – dydyn nhw ddim yn mynd i ddod yn ôl allan wedyn,” meddai cyn dweud “nad oedd unrhyw ymwelwyr o gwbl yn y dref – roedd hi’n farwaidd iawn yma.
“Roedd yr Eisteddfod i fod yn wych i’r ardal – ond nid dyna ddigwyddodd. Efallai bod y Cyngor wedi elwa, ond wnaethon ni ddim.”
‘Dathlu’
Ond, fe gafodd un perchennog siop goffi yn Nhredegar brofiad gwahanol, meddai wrth Golwg360.
“Fe wnaethon ni’n dda iawn – rydan ni wedi’n lleoli tua dwy filltir, dwy filltir a hanner o ble’r oedd y safle campio yn Nhredegar,” meddai Aldwyn Jenkins o Refresh Coffee Shop.
“”Fe gawson ni dipyn o bobl yn dod i mewn o’r Eisteddfod. Efallai, nad oedd hi mor brysur ag roedden ni wedi’i obeithio amdano – ond fe gawson ni fwy o gwsmeriaid na’r arfer.
“Rydw i’n falch bod yr Eisteddfod wedi dod i Flaenau Gwent ac wedi rhoi’r ardal ar y map. Roedd gennym ni fflagiau yma a phopeth – roedd gennym ni hyd yn oed fara brith ar y stondin cacennau. Roedd hi’n amser dathlu.”
‘Dim gwell’
Dywedodd Debbie Thomas o The Crossing Cafe yng Nglyn Ebwy nad oedd yr wythnos “ddim gwell” na’r arfer.
“Roedden ni’n disgwyl iddi fod yn brysurach. Roedd rhai diwrnodau’r un fath ag arfer, a rhai eraill yn ddistawach,” meddai.
Serch hynny roedd hi’n “braf gweld yr Eisteddfod yng Nglyn Ebwy,” meddai.
Yn ôl Meryl Congreve o gaffi/bwyty Deanos yng Nglyn Ebwy roedd hi’n “ddistawach” na’r arfer iddyn nhw hefyd – er eu bod wedi clywed y byddai’n “brysur iawn”.
“Rydw i’n meddwl mai’r sefyllfa Park and Ride oedd yn gyfrifol – am eu bod nhw’n ein pasio ni’n syth at yr Eisteddfod” meddai. Er hyn, mae’n dweud ei bod hi wedi “mwynhau’r eisteddfod”.