Cynyddu maint testun

Golwg360



Gweinidog addysg yn amddiffyn canlyniadau Lefel-A Cymru

Awst 19, 2010 15:36

Mae Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru wedi dweud bod yn rhaid ystyried Bagloriaeth Cymru wrth drafod canlyniadau Lefel A eleni.

Roedd yn siarad efo Golwg360 yn dilyn y newyddion bod graddau yng Nghymru yn is yn gyffredinol nac yng ngweddill gwledydd Prydain.

Ond yn ôl Leighton Andrews, mae’n rhaid ystyried nad ydi ffigyrau gweddill Ynysoedd Prydain yn cynnwys y cymhwyster “arwyddocaol” Cymreig yma.

Roedd 4,360 – neu 81% – o’r disgyblion wnaeth gymryd y cwrs wedi cael 120 marc UCAS neu uwch, meddai, sy’n gyfystyr â Lefel A.

Mae’r cymhwyster yma bellach yn cael ei dderbyn mewn 80% o gyrsiau prifysgolion gwledydd Prydain, meddai.

Serch hynny dyw canlyniadau’r Fagloriaeth ddim yn cael ei gynnwys yn yr un ffigurau â’r canlyniadau Lefel A, meddai.

Mae’r rheini yn dangos bod nifer y disgyblion sy’n cael y graddau A neu A* yn is yng Nghymru, a bod nifer y disgyblion dderbyniodd radd A i E wedi syrthio am yr ail flwyddyn yn olynol.

Ond mae Leighton Andrews yn awgrymu y byddai ychwanegu cyraeddiadau’r Fagloriaeth yn gwella’r ffigwr yng Nghymru.

Awgrymodd hefyd mai’r rheswm am y nifer uwch o raddau A ac A* yn Lloegr yw oherwydd bod mwy o ysgolion preifat yno nac yng Nghymru.

Dywedodd bod yna lawer o asesu i’w wneud, ac y bydd yn edrych ar y ffigurau.

“Rydw i’n hapus ar y cyfan,” meddai, “ond fe allwn ni wastad wneud yn well.”