Cynyddu maint testun

Golwg360



Chwilio am ddynion ar gyfer dêt dau funud mewn llyfrgell

Awst 19, 2010 15:47

Mae Llyfrgell Cilâ yn Abertawe yn gobeithio y bydd pobol sy’n caru llyfrau yn dod i garu’i gilydd wrth drefnu noson ‘speed-dating’ arbennig ar 20 Awst.

Y nod, meddai Rhyannon Smith, sy’n gynorthwyydd yn y llyfrgell, yw ceisio cynnig y profiad o ddêt dau funud i “fath gwahanol o berson”.

“Fel arfer mae digwyddiadau o’r fath yn cael eu cynnal mewn clybiau neu fariau,” meddai. Maen nhw hefyd yn gobeithio denu “pobol gwahanol i mewn i’r Llyfrgell”.

Does dim llefydd ar ôl i ferched, ond mae’r staff dal yn chwilio am bump dyn arall rhwng 40 a 60 mlwydd oed i gymryd rhan yn y digwyddiad.
Er bod cymryd rhan yn costio £3.00 – nid yw’r llyfrgell yn gwneud elw, meddai Rhyannon Smith gan ddweud fod yr arian yn mynd tuag at dalu costau.

Llwyddiant

Dim ond lle i 10 o bobol oedd ar gael y tro diwethaf iddyn nhw gynnal digwyddiad o’r fath, ond oherwydd “llwyddiant” y fenter bydd 15 o ferched a 15 o ddynion yn cymryd rhan y tro yma..

Dywedodd Rhyannon Smith bod nifer ohonyn nhw’n synnu nad ydi llyfrgelloedd modern yn glos a thrymllyd.

“Mae staff y llyfrgell yma yn wych. Rydan ni wedi cael dipyn o gydnabyddiaeth am ein marchnata. Rydan ni wedi bod yn gwneud yn dda iawn dros y blynyddoedd diwethaf.”