Mae dadlau wedi codi rhwng undebau athrawon tros y canlyniadau lefel ‘A’ yng Nghymru.
Mae un yn dweud bod diffyg arian wedi arwain at gwymp yn y canran o raddfeydd ucha’; mae un arall yn mynnu mai’r drefn sydd wedi newid.
Mae’r ffaith bod mwy na 4,300 o ddisgyblion wedi pasio’r Bac Cymreig yn gwneud iawn am y cwymp mewn graddau o A* i B, meddai Brian Lightman, y prifathro o Gymru sydd ar fin dod yn Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas yr Arweinwyr Colegau ac Ysgolion.
“Allwch chi ddim cael system sydd wedi ei datganoli ac wedyn cwyno y dylai gael ei chymharu gyda Lloegr,” meddai wrth Radio Wales.
‘Diffyg arian yn cael effaith’
Roedd yn ymateb i sylwadau gan Ysgrifennydd NUT Cymru a ddywedodd bod diffyg arian i ysgolion uwchradd yng Nghymru yn dechrau dangos.
Y ddadl yw bod £527 yn llai yn cael ei wario bob blwyddyn ar ddisgyblion yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr a Gogledd Iwerddon.
“Mae ein disgyblion wedi llwyddo er gwaetha’r diffyg ariannu,” meddai David Evans. “Mae cwestiwn cyllid fel petai wedi cael effaith ar y rhai sy’n cael y graddau uchaf.”
Cwymp yn y graddau uchaf
Roedd y canran a gafodd y graddau gorau wedi cwympo o 76.5% i 73.8% ac roedd yna hefyd ostyngiad bach yn y rhai a basiodd eu lefel A – o 97.6% i 97.1%.
Ond roedd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi pwysleisio ddoe fod mwy na 4,300 wedi cael y Bac Cymreig, ac 80% wedi cael canlyniadau sy’n gyfystyr â gradd A, ond doedd y rheiny ddim yn cael eu cynnwys yn yr ystadegau lefel ‘A’.
Mae NUT Cymru’n dadlau hefyd bod eisiau gweithredu oherwydd cwymp yn nifer y disgyblion sy’n cymryd lefel A mewn ieithoedd modern a Chymraeg ail iaith.
Llun: Derbyn canlyniadau