Mae Prifysgol Aberystwyth yn dweud eu bod nhw wedi gweld cynnydd 14% yn nifer y ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr eleni.
Roedd mwy o ddarpar fyfyrwyr nag erioed o’r blaen wedi nodi Aberystwyth fel eu dewis cyntaf, medden nhw.
Daw hynny wrth i ffigyrau ryddhawyd heddiw ddangos bod 674,339 o bobol wedi gwneud cais am le mewn prifysgolion ym Mhrydain eleni, cynnydd o 63,886 ar y llynedd.
Mae 190,183 o ddarpar fyfyrwyr yn rhan o’r broses glirio eleni am nad ydyn nhw wedi cael unrhy gynigion, wedi methu a cael y graddau angenrheidiol enu wedi gwneud cais yn rhy hwyr.
Dywedodd y gwasanaeth derbyn Ucas y gallai 150,000 o ddarpar fyfyrwyr fethu cael lle mewn prifysgol oherwydd bod cymaint wedi trio.
Ym mis Ebrill eleni bu’n rhaid i’r Brifysgol Aberystwyth gyhoeddi na fyddai yn ystyried unrhyw geisiadau newydd o fewn y Deyrnas Unedig ar ôl 15 Ebrill 2010. Dyw’r brifysgol ddim chwaith yn cynnig llefydd fel rhan o’r broses clirio eleni.
Prifysgol Aberystwyth yw’r unig Brifysgol yng Nghymru yn y sefyllfa honno, medden nhw, a bu’n rhaid iddyn nhw ysgrifennu at yr holl fyfyrwyr a oedd wedi derbyn cynnig gan ddweud nad oedd sicrwydd lle os nad oedden nhw’n cyflawni’r graddau angenrheidiol.
“Bu eleni yn flwyddyn nodedig iawn, ac mae 2010 wedi mynd tu hwnt i unrhyw garreg filltir o ran ceisiadau myfyrwyr,” meddai’r Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Aled Jones.
“Mae’r nifer o fyfyrwyr sy’n gwneud cais i ni, yn dewis y Brifysgol fel eu dewis cyntaf ac yna’n mynd ymlaen i dderbyn y cynnig yn uwch o dipyn nag yn ystod y blynyddoedd a fu. Mae hyn yn newyddion da iawn i’r Brifysgol ac i economi’r rhanbarth.
“Mae poblogrwydd cynyddol Aberystwyth yn adlewyrchiad o’r addysg a’r gefnogaeth wych a gaiff ein myfyrwyr gan ein staff ynghyd â’r holl gyfleusterau sydd hefyd ar gael.
“Mae’r adnoddau academaidd, chwaraeon a diwylliannol sydd i’w cael yn Aber yn ardderchog, rydym i gyd yn gweithio’n galed i geisio eu gwella’n barhaus.”