Ar ôl derbyn A* a dwy A, mae telynores ifanc o Fangor yn paratoi i hel ei phac ac yn “edrych ymlaen at fynd i rywle gwahanol” a throi ei golygon at Baris.
Fis Hydref, fe fydd Glain Dafydd, 19 mlwydd oed o Bentir ym Mangor yn dechrau yn ysgol gerdd fawreddog yr École Normale de Musique de Paris, sy’n cael ei ystyried yn un o ysgolion cerdd gorau Ewrop.
Roedd y delynores ifanc a enillodd Gystadleuaeth y Delyn yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru eleni a’r ruban glas yn “gwybod fy mod eisiau mynd i Baris ers oeddwn i’n 14 oed,” meddai wrth Golwg360 cyn dweud mai’r prif sbardun oedd safon yr athrawon yno.
Perfformwyr ac athrawon
Fe fydd hi’n astudio gyda’r athrawes Isabelle Perrin, sy’n rhoi dosbarthiadau meistr yn Ewrop, Unol Daleithaiu, Mecsico, Japan, Korea, China ac Awstralia.
Ei bwriad yw astudio yn yr ysgol ar Bis Boulevard Malesherbes cyn ennill lle yn Conservatoire de Paris ac astudio gydag athrawes arall, Isabelle Moretti.
Bydd rhaid iddi basio sawl rownd o glyweliadau cyn cael lle yn y Conservatoire.
Wrth siarad am yr athrawon y bydd yn gweithio gyda nhw fe ddywedodd eu bod nhw’n “berfformwyr gwych ac yn athrawon da ofnadwy,” ac mai dyma a’i sbardunodd i ddewis yr ysgol yn y lle cyntaf.
Fe gafodd gyfle i gyfarfod ei hathrawes newydd ar gwrs telyn yn Liechtenstein fis Gorffennaf y llynedd.
“Mae o bob tro yn braf cael athrawes sy’n bersonoliaeth neis… Roedd hi hefyd yn bendant iawn am y ffordd mae’n dysgu ac fe wnaeth i mi feddwl am y darn ro’ ni’n chwarae mewn ffordd gwahanol.
“I mi, athrawes ydi’r peth pwysicaf. Dyna sut y gwnes i ddewis Paris.”
Ffrangeg
Un newid mawr i’r Gymraes yn y Coleg newydd fydd astudio’r delyn yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Ffrangeg.
“Dw i’n eitha’ nerfus ynglŷn a’r Ffrangeg, am nad ydw i’n hollol rugl. Ond mae’n Goleg Rhyngwladol.
“Ond mae’n haws deall Ffrangeg pan mae pobol yn siarad hefo fi na pan mae’n rhaid i fi ffurfio brawddegau,” meddai cyn ei bod hi’n ceisio dysgu’r “terminoleg gerddorol Ffrangeg”.
‘Lwcus’
Mae’r delynores ifanc yn dweud ei bod hi’n “andros o lwcus” ei bod hi wedi astudio gyda Elinor Bennett ac Alwena Roberts.
“Yn bendant mi wnâi golli Cymru, teulu a ffrindiau – ond mae yna hanner tymor i mi gael dod adref, a’r ‘dolig a’r haf.”
Mae ei ffrindiau’n mynd i drawsdoriad o lefydd eleni meddai gan gynnwys Brwsel, Caerdydd, Lerpwl a Manceinion.
Mae Glain Dafydd yn ystyried cystadlu yng nghystadleuaeth telyn ryngwladol Lily Laskine ym Mharis fis Hydref.