Cynyddu maint testun

Golwg360



Cyhoeddi carfan athletwyr Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad

Awst 20, 2010 14:26

Mae sêr Cymreig Pencampwriaethau Ewropeaidd wedi cael eu dewis yn rhan o garfan Cymru er mwyn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Delhi ym mis Hydref.

Fe fydd Dai Greene, Rhys Williams a Christian Malcolm yn cynrychioli Cymru ar y trac yn y gystadleuaeth yn yr India fel rhan o garfan o 22 o athletwyr.

“Rwy’n hapus iawn i gael fy newis yn nhîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn enwedig ar ôl fy mhrofiad siomedig ym Melbourne yn 2006,” meddai Dai Greene.

“Roeddwn i wedi gobeithio bod yn rhan o’r tîm ras gyfnewid 4x400m pedair blynedd ‘nôl- ond ges i ddim y cyfle i wisgo fest Cymru. Rwy’n methu aros i’r gemau ddechrau a chael y cyfle i gystadlu.

“Ar ôl ennill yn Barcelona rwy’n gobeithio gallu perfformio cystal, a dod a medal i Gymru.”

Mae pennaeth hyfforddi’r tîm, John Dagata wedi dweud ei fod yn gyffrous iawn ynglŷn â’r tîm fydd yn cynrychioli’r wlad.

“Rydw i am i bawb yng Nghymru wybod bod y rhai sy’n gwisgo fest Cymru yn bobl arbennig fydd yn cynnal traddodiad gwych Gemau’r Gymanwlad,” meddai’r hyfforddwr.


Carfan Athletau Cymru

Philippa Roles (Castell-nedd) Dai Greene (Llanelli) Rhys Williams, Christian Malcolm, Brian Alldis (Caerdydd) Carys Parry (Pontypridd) Sally Peake (Caerdydd) Joe Thomas (Pontypridd) Lee Doran (Caerdydd) Brett Morse (Caerdydd) Laura Douglas (Wrecsam) Matt Richards (Abertawe) Ryan Spencer Jones (Aberdâr) Jenny McLoughlin (Cas-gwent) Elaine O’Neill (Caerfaddon) James Thie (Llanharan) Paul Walker (Y Rhws) Gareth Warburton (Caernarfon) Ashleigh Hellyer (Abertawe) Christopher Gowell (Casnewydd) David Guest (Pen-y-bont) Benjamin Gregory (Chertsey)