Mae’r gyfres ddiweddaraf o The X Factor wedi achosi dadlau wrth i rai gwylwyr honni eu bod nhw wedi defnyddio technoleg i wneud i leisiau’r cantorion swnio’n well.
Darlledwyd pennod gyntaf y seithfed gyfres ar ITV1 dydd Sadwrn gan ddenu cynulleidfa o 11 miliwn. Ond mae pobol wedi cwyno eu bod nhw’n defnyddio dyfais o’r enw ‘autotune’ i addasu lleisiau’r ymgeiswyr.
Mae’r rhan fwyaf o’r honiadau yn ymwneud â’r gantores ifanc Gamu Nhengu, ganodd fersiwn o Walking On Sunshine gan fand Katrina and the Waves.
Roedd y beirniad Simon Cowell wedi dweud fod y ferch 18 oed o Clackmannanshire, yr Alban, yn “hynod o dalentog”.
Ond mae rhai gwylwyr wedi cyhuddo’r cynhyrchwyr o ddefnyddio offer ‘autotune’ sydd yn sicrhau bod y canwr yn taro’r nodyn cywir bob tro.
“Defnydd erchyll o ‘autotune’… ydi The X Factor yn meddwl ein bod ni’n dwp?” gofynnodd Robhayes ar wefan y sioe.
“Sai’n gallu credu eu bod nhw wedi rhoi ei llais hi drwy ‘autotune’. Os ydych chi’n gwrando ar y geiriau ‘drws’ a ‘teliffon’ mae’n amlwg,” meddai Smstrat91.
“Mae hi’n gantores dda iawn hefyd, ond yn amlwg doedd y cynhyrchwyr ddim yn credu ei bod hi digon da.”
Dywedodd llefarydd ar ran The X Factor bod angen rywfaint o waith ar leisiau’r cantorion oherwydd nifer y microffonau sy’n cael eu defnyddio yn ystod ffilmio.