Mae’n haws i fandiau wneud bywoliaeth yng Nghymru nag yn Lloegr, yn ôl gitarydd Masters in France.
Mae’r band wedi galw ar eu cefnogwyr i dalu am eu sengl ddiweddaraf ar YouTube am eu bod nhw’n “uffernol o dlawd ac yn meddwl stopio’r nonsens ma”.
“Does ‘na ddim pres yn y peth, ond mae’n well yng Nghymru nac yn Lloegr,” meddai Matthew Sayer wrth Golwg 360.
“Am wneud gig yn Lloegr, fe fydden ni’n cael tua £70 sydd jest yn talu am y petrol. Ond, yng Nghymru, rydan ni’n cael cwpl o gannoedd o leiaf,” meddai.
“Mi fyddwn i’n hoffi aros adref, cael sgwennu caneuon a gwneud hynny’n llawn amser ond dydi hynny ddim am ddigwydd.”
Ychwanegodd y byddai’r band yn gallu cyrraedd “safon uwch” pe baen nhw’n gallu fforddio treulio drwy’r dydd yn cyfansoddi ac ymarfer.
Yn ôl Matthew Ellis Sayer, mae’r band a gafodd ei ffurfio nôl yn 2009 yn mynd i barhau a’u gwaith “er ei bod hi’n anodd yn ariannol.”
Rhyddhau sengl a fideo
Fe fydd sengl nesaf y band, ‘Little Girls’, ar gael i’w lawr lwytho o’r we ar 18 Hydref.
Maen nhw hefyd wedi cael gwybod y bydd label ‘Too pure’ y cwmni Begger’s Banquet wedi’u harwyddo i ryddhau sengl arall fis Ionawr nesaf.
Mae Prodigy ymysg yr enwau mawr sydd eisoes wedi eu harwyddo gan Begger’s Banquet.
“Doeddwn i ddim yn gallu coelio’r peth i ddechrau,” meddai Matthew Sayer. “Roeddwn i’n meddwl mai fy weindio i fyny oedden nhw i ddechrau.”
Mae’n debyg fod y grŵp recordiau yn mynd i fod yn gyrru’r band o Gymru i lawr i Abbey Road, Llundain ddechrau Rhagfyr i weithio ar y sengl newydd, meddai.