Cynyddu maint testun

Golwg360



Cyngor a phrifysgolion am gydweithio tros ganolfan

Awst 24, 2010 08:03

Mae disgwyl y bydd cyngor sir a dwy brifysgol yn cydweithio i ddatblygu un o brif ganolfannau’r celfyddydau yng Nghymru.

Fe fydd Cyngor Sir Dinas Abertawe’n ystyried arwyddo Memorandwm Dealltwriaeth gyda Phrifysgol Cymru a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe tros ddyfodol Canolfan Dylan Thomas.

Yn ogystal â gwella’r arddangosfa am hanes y bardd ac ychwanegu gwybodaeth am enwogion eraill o’r ardal, un bwriad yw creu unedau meithrin ar gyfer y diwydiannau creadigol.

Fe fyddai’r consortiwm hefyd yn gobeithio denu dwy wobr yno – Gwobr Dylan Thomas, y fwya’ i awduron ifanc sydd wedi’u cyhoeddi, a Gwobr Darllenwyr Sony, ar gyfer awduron ifanc sydd heb eu cyhoeddi eto.

“Fe fyddai hyn yn gwneud y gorau o’r hyn sydd gyda ni,” meddai Graham Thomas, y cynghorydd sy’n gyfrifol am y celfyddydau yng nghabinet y Cyngor Sir. “A hynny ar adeg pan ydyn ni’n ceisio cadw cymaint ag y gallwn ni o raddedigion talentog yn yr ardal.”

Roedd llefarydd ar ran y Brifysgol Fetropolitan yn pwysleisio mai dim ond dechrau y mae’r trafodaethau ar hyn o bryd.

Llun: Rhan o Ganolfan Dylan Thomas (Sloman CCA2.5)