Cynyddu maint testun

Golwg360



TGAU: Bwlch eto rhwng Cymru a gweddill Ynysoedd Prydain

Awst 24, 2010 09:29

Mae canlyniadau TGAU Cymru yn dangos bod Cymru ar ei hol hi o’i gymharu â gweddill Ynys Prydain.

Tra bod 19.2% o’r holl gofrestriadau yng Nghymru wedi ennill graddau A* ac A, a 66.4% o’r holl gofrestriadau wedi ennill graddau A*-C, y canrannau cywerth yn Lloegr oedd 22.6% a 69.0%.

Yr wythnos diwethaf datgelwyd fod yna fwlch cynnyddol rhwng Cymru a gweddill Ynysoedd Prydain o ran canlyniadau AS Lefel-A, hefyd.

Yng Nghymru, dyfarnwyd y radd A* i 6.5% o holl gofrestriadau pwnc yr ymgeiswyr, ac enillodd 24.4% radd A neu A*. Y ffigurau cyfatebol ar gyfer y DU yw 8.1% a 27.0%. Enillodd 8.1% o ddisgyblion Lloegr radd A*.

Bryd hynny roedd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi amddiffyn y canlyniadau gan ddweud mai bod yn rhaid ystyried Bagloriaeth Cymru wrth drafod canlyniadau Lefel A.

Ond dywedodd Ysgrifennydd undeb athrawon NUT Cymru bod diffyg arian i ysgolion uwchradd yng Nghymru yn dechrau dangos.

Mae £527 yn llai yn cael ei wario bob blwyddyn ar ddisgyblion yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr a Gogledd Iwerddon.

“Mae’n ymddangos bod y gwahaniaethau rhwng graddau yng Nghymru a Lloegr yn deillio’n helaeth o bwysigrwydd y sector annibynnol yn Lloegr, o’i gymharu â’r sefyllfa yng Nghymru,” meddai Derec Stockley, Cyfarwyddwr Arholiadau ac Asesu CBAC, am y canlyniadau TGAU.

“Ychydig iawn o wahaniaeth a welir wrth edrych ar y sector gwladol yn unig, yn ôl y dadansoddiadau cyntaf.”

Gwyddoniaeth a ieithoedd

Bu cynnydd yn nifer y cofrestriadau ar gyfer pynciau gwyddonol eleni ond cwymp yn bennaf yn y cofrestriadau ar gyfer ieithoedd modern.

Bu cynnydd o 4.4% yn nifer y cofrestriadau Bioleg, cynnydd o 4.2% yn nifer y cofrestriadau Cemeg a chynnydd o 4.9% yn nifer y cofrestriadau Ffiseg.

Ond gostyngodd y cofrestriadau Ffrangeg 2.9% ac Almaeneg 10.7%, er y bu cynnydd bychan yn nifer y cofrestriadau Sbaeneg (1.6%) a Chymraeg Ail Iaith (3.2%).

Cynyddu hefyd wnaeth nifer y cofrestriadau Cymraeg Iaith Gyntaf a Llenyddiaeth Gymraeg, 3.6% a 3.2%.


‘Arwyddion calonogol’

Y canran yn ennill A* oedd 6.1% o’i gymharu â 6.2% y llynedd, gyda’r canran yn ennill gradd A neu A* yn 19.2%, sy’n gynnydd ar y 18.9% yn 2009.

Canran y disgyblion enillodd raddau A* – C oedd 66.4% yn 2010, o’i gymharu â 65.5% y llynedd ac roedd canran y disgyblion yn ennill graddau A* – G, yn 98.5% yn 2010 sydd yr un peth yn union â’r llynedd.

Er bod y bwlch rhwng cyflawniad bechgyn a merched yng Nghymru wedi lleihau ychydig eleni ar y graddau A* – C, y merched sy’n dal i fod ar y blaen yng Nghymru.

Tra bod 7.1% o holl gofrestriadau’r merched wedi ennill A*, 22% wedi ennill A*/A a 70.1% wedi ennill graddau A* – C, 5.0%, 16.2% a 62.6% oedd ffigyrau cyfatebol cofrestriadau’r bechgyn.

“Mae arwyddion calonogol i’r canlyniadau hyn,” meddai Derec Stockley.

“Mae’r gwelliant yng nghanlyniadau’r gwyddorau, a chynnydd yn y niferoedd sy’n cymryd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, yn dystiolaeth i waith caled ac ymrwymiad sylweddol myfyrwyr ac athrawon fel ei gilydd. “

‘Balch’

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud bod Cymru yn cau’r bwlch ar Loegr ar ôl datgelu canlyniadau TGAU eleni.

Mae’r gwahaniaeth mewn safon graddau o’i gymharu â Lloegr wedi cau rywfaint ers y llynedd, meddai llefarydd wrth Golwg360.

Maen nhw’n hefyd yn cyfeirio at y graddau A*- G, sydd wedi cynyddu i 98.7%, sef yn union yr un ffigwr â gweddill gwledydd Prydain.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud heddiw y dylai pobol ifanc sydd wedi derbyn eu canlyniadau TGAU fod “yn falch” o’u camp.

Mae’r canlyniadau yn dangos bod canlyniadau arholi wedi bod yn gwella ers dechrau datganoli, meddai.