Cynyddu maint testun

Golwg360



Priodas Tiger ac Elin yn dod i ben

Awst 24, 2010 12:28

Mae priodas y golffiwr Tiger Woods ac Elin Nordegren wedi dod i ben ar ôl i farnwr ganiatáu ysgariad iddyn nhw.

Fe ddaw hyn ar ôl i rif un y byd golff gyfaddef iddo fod yn anffyddlon i’w wraig sawl tro, gan ymddiheuro’n gyhoeddus iddi hi a’i theulu.

Mewn datganiad ar y cyd fe ddywedodd Woods a Nordegren eu bod nhw’n drist bod eu priodas wedi dod i ben a’u bod yn dymuno’n dda i’w gilydd.

“Er nad ydym ni’n briod erbyn hyn, r’yn ni’n rhieni i ddau blentyn arbennig ac mae eu hapusrwydd nhw’n bwysig iawn i’r ddau ohonom ni.

“Ni fydd yr wythnosau a’r misoedd nesaf yn hawdd ac wrth i ni addasu i sefyllfa deuluol newydd, mae ein preifatrwydd yn bwysig iawn.”

Does dim manylion wedi cael eu cyhoeddi ynglŷn â threfniant yr ysgariad, ond mae ‘na adroddiadau yn yr Unol Daleithiau y bydd Elin Nordegren yn derbyn tua $100m.

Ers dychwelyd i chwarae dyw Tiger Woods heb gael unrhyw lwyddiant ac fe fydd yn rhaid iddo ddibynnu ar gapten tîm yr Unol Daleithiau yn y Cwpan Ryder, Corey Pavin, i’w ddewis i chwarae yng Nghasnewydd ar ôl methu sicrhau ei le yn y safleoedd awtomatig ar gyfer y gystadleuaeth.