Cynyddu maint testun

Golwg360



Saethu ffilm gomedi am gerddor o Gymru

Awst 24, 2010 19:46

Mae cynhyrchwyr wedi dechrau saethu ffilm gomedi sy’n dweud hanes record ffug oedd yn llwyddiant mawr i’r cerddor pync Mike Peters o Brestatyn.

Fe greuodd Mike Peters y record ffug ond llwyddiannus yn 2004 i dynnu sylw at ragfarn yn y diwydiant cerddoriaeth ar y pryd.

Mae un o gyn-actorion Eastenders, Phil Daniels a’r actor o Gymru Keith Allen yn serennu yn y ffilm gomedi ‘Vinyl’ sy’n cael ei chyfarwyddo gan Sara Sugarman.

Fe brofodd Mike Peters a’i fand The Alarm lwyddiant mawr yn yr 1980au gyda chaneuon fel 68 Guns and Where Were You Hiding a When The Storm Broke?

Ond wrth geisio adennill eu poblogrwydd yn y ganrif newydd gyrrodd y band eu trac diweddaraf 45 RPM at orsafoedd radio dan yr enw The Poppy Fields yn hytrach na The Alarm.

Recordiwyd grŵp o bobl ifanc yn eu harddegau oedd yn meimio i’r trac ac fe gafodd y sengl lot fawr o lwyddiant, am nad oedd neb yn gwybod mai hen rocwyr The Alarm oedd y tu ôl i’r cwbl.

Datgelodd Peters mai cynllun oedd y cwbwl ar ôl i’w record gyrraedd y 30 uchaf yn y siartiau.

Mae uwch-gynhyrchydd y rhaglen gomedi pync roc wedi gweithio ar ffilmiau fel Shrek ac mae’r gyfarwyddwraig wedi gweithio ar ffilmiau fel Mad Cows a Confessions Of A Teenage Drama Queen.

Mae Mike Peters wedi brwydro canser ddwywaith ac fe fuodd ei wraig yn ddifrifol wael ar ôl datblygu clot gwaed a firws yn ystod trip cerdded elusennol yn Kilimanjaro.