Fe fydd John Fisher, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, yn gadael ei swydd ha’ nesaf ar ôl pum mlynedd wrth y llyw.
Ymunodd John Fisher â’r cwmni yn 2006 ar ôl gweithio gyda’r New York Metropolitan Opera. Mae wedi penderfynu peidio adnewyddu ei gytundeb gyda’r Cwmni Opera.
‘Braint’
“Mae wedi bod yn fraint i arwain Opera Cenedlaethol Cymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac yr wyf yn falch iawn o’r hyn yr ydym wedi llwyddo i’w gyflawni,” meddai John Fisher.
“Mae’n gwmni gwych sydd wedi bod yn gaffaeliad mawr i Gymru ac i’r byd opera.
“Yn y blynyddoedd nesaf, bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn wynebu sialensiau sylweddol iawn, ond ‘dw i’n hyderus pan ‘dw i’n gadael yr haf nesaf y bydd y cwmni yn nwylo tîm cryf iawn a medrus. “
‘Codi safonau’
“Dros y pum mlynedd diwethaf, mae John wedi gwneud cyfraniad enfawr i ddatblygiad y cwmni drwy godi ei safonau cerddorol a lleisiol at y lefel uchaf, a denu’r dalent gorau i Opera Cenedlaethol Cymru,” meddai Geraint Talfan Davies, Cadeirydd Opera Cenedlaethol Cymru.
“Rydym yn hynod ddiolchgar iddo am bopeth y mae wedi ei gyflawni.
“Rydym yn awr yn edrych ymlaen at y cynyrchiadau y bydd e yn eu goruchwylio yn ystod gweddill ei amser gyda ni. Y deyrnged orau gallwn ei dalu i John yw gwneud popeth y gallwn yn yr hinsawdd heriol i gynnal y safonau y mae wedi eu gosod.”