Wrth i gwrs preswyl Cerddorfa Ieuenctid Gogledd Cymru fwrw mlaen yr wythnos hon, mae rheolwr y gerddorfa wedi dweud wrth Golwg360 fod “athrawon cerdd ffantastig yng Ngogledd Cymru”.
Yn ôl Aled Marshman, Rheolwr Cerddorfa Ieuenctid Gogledd Cymru, fyddai’r gerddorfa byth yn llwyddo i ddenu aelodau mor alluog pe na bai athrawon cystal yn yr ardal.
Mae pob un o’r 70 aelod dan 21 oed, ac mae dau feiolinydd 11 mlwydd oed ymysg aelodau ieuengaf y gerddorfa eleni.
“Mae plant y gerddorfa weithiau’n teimlo fel alltudion yn yr ysgol oherwydd eu bod nhw’n hoffi chwarae eu hofferynnau, a bod hynny ‘ddim yn normal’ yng ngolwg disgyblion eraill,” meddai Aled Marshman, rheolwr y gerddorfa.
“Ond, yma, mae 70 o bobol ifanc i gyd yn chwarae offerynnau ac yn caru gwneud hynny yma ac maen nhw’n sylwi ei fod o’n normal.”
Y penwythnos hwn fe fydd cwrs preswyl wythnos Cerddorfa Ieuenctid Gogledd Cymru yn Ysgol Moreton Hall yng Nghroesoswallt yn cyrraedd uchafbwynt mewn dau gyngerdd.
Cymro’n dod adref i arwain
Eleni, mae’r gerddorfa wedi bod yn gweithio dan law arweinydd byd-enwog o Aberystwyth, Gareth John.
Yn chwaraewr soddgrwth cydnabyddedig, mae wedi gweithio’n rheolaidd gyda cherddorfeydd gorau Gogledd Ddwyrain yr Alban ynghyd â pherfformio fel unawdydd concerto gyda Sinffonieta Aberdeen a Cherddorfa Siambr Aberdeen. Ef hefyd yw arweinydd preswyl cyntaf Cerddorfa Siambr Aberdeen.
Mae arwain Cerddorfa Ieuenctid Gogledd Cymru yn dod â Gareth yn ôl i’w wreiddiau wedi bron i 30 mlynedd ers iddo ddilyn ei dad fel athro soddgrwth gyda’r gerddorfa ac yn gyfle arbennig iddo arwain yng Nghymru unwaith eto.
Bydd y cyngerdd cynta’ yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, nos Wener, Awst 27, a’r ail yn Neuadd Pritchard Jones, Bangor, nos Sadwrn, Awst 28.