Mae’r freuddwyd o sefydlu Canolfan Genedlaethol i Owain Glyn Dŵr ym Machynlleth, gam yn agosach, wedi i’r Senedd-dy yn y dref dderbyn grant o £275,000 gan Cadw.
Fe fydd yr arian yn cael ei wario’n bennaf ar welliannau sylweddol i’r adeilad sy’n dyddio’n ôl i’r 15fed ganrif. Ond fe fydd arddangosfa newydd yn cael ei chreu y tu mewn hefyd, yn adrodd hanes bywyd a gyrfa y Tywysog a arweiniodd wrthryfel yn erbyn Lloegr yn 1400.
“Fe fydd yr arddangosfa yn nodi hanes ei fywyd gyda chyfrifiaduron ar gael i ddilyn llinell amser,” meddai Wyn Thomas o’r Senedd-dy. “Fe fydd yna hefyd fodelau o Owain Glyn Dŵr a’i gynghorwyr.
“Fe fydd popeth yn fwy modern, gyda gwelliannau i’r fynedfa ac i’r siop. Fe fydd y cyfan yn rhan o’n cynllun i sefydlu Canolfan Genedlaethol i Owain Glyn Dŵr ym Machynlleth.”