Roedd Awst 25 yn ddiwrnod mawr i nofelydd ifanc o Geredigion. O fewn oriau, fe ddaeth Ifan Morgan Jones yn dad am y tro cynta’yn ogystal â gweld ei ail nofel yn dod o’r wasg.
Ddwy flynedd wedi iddo ennill Gwobr Goffa Daniel Owen am ei nofel gynta’, Igam Ogam mae Ifan Morgan Jones yn mentro i fyd hollol wahanol gyda’i ail nofel, Yr Argraff Gyntaf.
Ond go brin fod Magw Jên Dafydd yn ymwybodol o hynny – fa anwyd y ferch fach ddoe yng nghartre’ Ifan a’i bartner, Llinos Dafydd, ym Mhenrhiwllan, yn pwyso 8 pwys a 13 owns.
Golwg360
Newyddiadurwr o’r Waunfawr ger Caernarfon yw Ifan Morgan Jones, ac ef yw Prif Is-Olygydd Golwg360.
Cyhoeddir Yr Argraff Gyntaf gan Y Lolfa, ac mae hi wedi ei dewis fel Nofel y Mis gan Gyngor Llyfrau Cymru ar gyfer mis Medi.
Llun: Magw Jên Dafydd yn cysgu’n braf gyda nofel ei thad