Heddiw, fe gyhoeddodd Robbie Williams y bydd yn mynd ar daith gyda’i gyn-grwp, Take That.
Wrth lansio sengl ar y cyd â phrif gyfansoddwr y grwp, Gary Barlow, heddiw, fe ddywedodd Robbie Williams bod y daith wedi ei threfnu. Fe fydd albwm newydd yn cael ei ryddhau gan Take That cyn hir, ac mae nifer o berfformiadau byw ar y gweill.
Ond does dim bwriad parhaol i’r grwp ddod yn ôl at ei gilydd, yn ôl Williams a Barlow, wrth iddyn nhw roi cyfweliad i Radio 1 y bore yma.
Ffrae yn sbarduno cân
Mae dros ddegawd ers i Robbie Williams adael Take That ar delerau gwael, pan benderfyodd fynd ymlaen i greu gyrfa iddo’i hun fel canwr unigol.
Ddeunaw mis yn ôl, fe drefnodd y band gyfarfod gydag ef yn Los Angeles, lle mae’n byw erbyn hyn, pan oedden nhw allan yno yn gweithio ar albwm o ganeuon.
Ffrwyth y cyfarfod hwnnw yw’r aduniad a’r albwm newydd, meddai Gary Barlow, ac yn arbennig y sengl ddiweddaraf. Mae’r gân ‘Shame’ wedi ei seilio ar berthynas y ddau ohonyn nhw, ar y ffrae hir ac ar y ffordd y maen nhw wedi ailgydio yn eu cyfeillgarwch.