Mae David Davies, David Roberts a Jazz Carlin ymhlith y 16 o nofwyr sydd wedi’u henwi heddiw yng ngharfan Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad Delhi 2010.
Bedair blynedd yn ôl ym Melbourne, fe lwyddodd Tim Cymru i ennill tair medal yn y pwll, ac fe lwyddodd David Davies i danio’r dwr pan enillodd fedal aur yn y 1500m dull rhydd, a medal efydd yn y ras 400m hefyd.
“Rwy’n edrych ymlaen at Delhi,” meddai. “Mae gwneud yn dda yng Ngemau’r Gymanwlad yn un o’r prif dargedau i mi eleni – wel, rwy’n amddiffyn fy nheitl!
“Mae’n mynd i fod yn anodd, oherwydd mae Ryan Cochrane o Ganada yn un y bydda’ i’n cadw llygad barcud arno fe.
“Ond mae’n deimlad arbennig i gael cynrychioli Cymru,” meddai David Davies wedyn. “Mae Gemau’r Gymanwlad yn hollol unigryw.”
Her fwya’
Mae’r pencampwr Paralympic, David Roberts, yn mynd i Delhi eleni gyda medalau efydd 2002 a 2006 yn dal yn gynnes yn ei boced. Mae’r nofiwr o Bontypridd yn gobeithio gwneud hat-tric trwy ennill medal arall eleni – er y byddai’n dymuno mynd gam neu ddau yn well na’r efydd y tro hwn.
“Delhli fydd sialens fwya’ fy ngyrfa,” meddai David Roberts, “oherwydd fe fydda’ i’n cystadlu’n erbyn pobol sy’n fwy abl na fi.
“Ond, ar ôl llwyddo i gipio’r aur yn ras 100m Pencampwriaethau’r Byd, rwy’n teimlo’n ddigon hapus, ac rwy’ i eisie gwneud argraff a rhoi dechrau da i fy ymgyrch at Olympics Llundain 2012.”
Enwau India
Mae enillwyr Gemau Olympaidd Beijing ymhlith nofwyr Tim Cymru fydd yn teithio i Delhi. Mae Jazz Carlin a Tom Haffield wedi cael blwyddyn neu ddwy arbennig o lwyddiannus.
Roedd Carlin, o Abertawe, yn nofio gyda Jo Jackson a Rebecca Adlington yn nhim 4x200m Prydain, ac fe lwyddon nhw i ennill medal efydd ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Rhufain yn 2009.