Cynyddu maint testun

Golwg360



Larwm mwg yn achub mam a’i phlentyn

Awst 27, 2010 11:18

Mae larwm mwg wedi achub bywyd mam ifanc a’i phlentyn tair blwydd oed.

Am tua naw o’r gloch bore ddoe, fe gafodd dau griw tân o Abergele a’r Rhyl eu galw i adeilad yn Stryd y Farchnad, Abergele, lle’r oedd hanner lolfa’r ty wedi ei difrodi gan fflamau.

Larwm mwg

Fe gafodd y fam ei rhybuddio am y tân wedi iddi glywed larwm mwg yn seinio.

Mae’n debyg i’r tân gynnau yn y lolfa, lle’r oedd gwresogydd ynghynn, a chan mai’r unig ffordd o fynd allan o’r tŷ oedd drwy’r lolfa, roedd yn rhaid i’r fam a’i phlentyn ddianc ar unwaith.

Fe ddywedodd Gwyn Roberts, Rheolwr Gweithrediadau gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, fod y digwyddiad hwn yn pwysleisio manteision gosod larymau mwg sy’n gweithio yn y cartre’.

Pwysig

“Fedra’ i ddim pwysleisio digon pa mor bwysig ydi gosod larymau mwg sydd yn gweithio yn eich cartre’. Mae’r larymau yma yn rhoi rhybudd cynnar sydd yn hanfodol er mwyn galluogi pobol i ddianc yn ddiogel,” meddai Gwyn Roberts.

Mae’r gwasanaethau hefyd yn annog pobol i beidio â gadael unrhyw wresogydd yn agos at ddefnyddiau fflamadwy, oherwydd bod tân yn gallu lledaenu mewn ychydig funudau.

Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i achos y tân.