Cynyddu maint testun

Golwg360



Ty Newydd – “dyfodol mwy rhyngwladol”

Awst 27, 2010 14:12

Mae Ty Newydd am greu teimlad mwy rhyngwladol yn y dyfodol, wrth wrth i’r ganolfan ysgrifennu ddathlu ei phen-blwydd yn 21 ddechrau Medi.

Fe fydd y ganolfan yn Llanystumdwy, Eifionydd, yn ceisio creu cysylltiadau rhwng awduron o Gymru a gweddill y byd, ac yn hyfforddi awduron mewn ysgrifennu ym maes gofal cymdeithasol.

“Mae’n bwysig bod Cymru yn edrych allan, ddim i mewn yn unig,” meddai Sally Baker, Cyfarwyddwr Gweithredol Canolfan Ty Newydd wrth Golwg 360.

“Yn yr amser mae Tŷ Newydd wedi bod yn gweithredu, mae’r genedl Gymreig wedi dod yn fwy hyderus. Mae’n amser i ni ddatblygu hyn yn ein llen yn yr iaith Gymraeg a Saesneg.

“Rydan ni wedi dod yn bell mewn 21 mlynedd… erbyn hyn, rydan ni wedi dod yn adnodd pwysig i awduron ac ysgrifenwyr yng Nghymru. Mae ganddon ni bob math o wahanol gyrsiau y byddai wedi bod yn amhosib i ni eu cael yn yr 1990au.”

Brwydr a her

Mae cynnal Ty Newydd wedi golygu “brwydro gyda chyllid”, meddai Sally Baker, ond mae ysgrifennwyr wedi cefnogi’r ganolfan ar hyd y daith.

“Y bobol sydd wedi credu yn Nhŷ Newydd sydd wedi gwneud y Ganolfan yr hyn ydi hi heddiw,” meddai.

“Wrth ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, goroesi fydd yr her fwyaf. Ond rydan ni wedi dod drwy sawl storm, ac fe fu bron i’r ganolfan gau yn 2004.

“Ond fe ddaethon ni drwyddi… felly dw i’n siŵr y gwnawn ni lwyddo.”