Cynyddu maint testun

Golwg360



Y BBC ‘yn rhy fawr’

Awst 29, 2010 12:43

Mae’r BBC yn rhy fawr a bron yn amhosibl i’w reoli, yn ôl ei gyn-gadeirydd Michael Grade, mewn anerchiad yn yr Ŵyl Deledu Ryngwladol yng Nghaeredin heddiw.

Dywedodd hefyd y dylai’r arian y drwydded deledu gael ei rannu rhwng y BBC a Sianel 4.

“Byddai hynny’n symbylu’r BBC i sicrhau gwerth am arian a sicrhau dyfodol Sianel 4 a chreu mesur o gystadleuaeth yn y sector darlledu cyhoeddus,” meddai.

“Y cwestiwn yw pa mor fawr y dylai’r BBC fod yn y byd modern?

“A oes arno angen yr holl sianelau digidol, a oes arno angen yr holl orsafoedd radio, a oes arno angen meddiannu’r holl diriogaeth sydd ganddo ar hyn o bryd?”

Dywedodd Michael Grade, sydd wedi bod yn gadeirydd y BBC, yn rheolwr BBC1 ac yn bennaeth Sianel 4, mai mater i dalwyr y drwydded, trwy fecanwaith Ymddiriedolaeth oedd penderfynu pa wasanaethau i’w hepgor – ond roedd yn rhaid i’r BBC ‘grebachu’ meddai.

‘Disgyblaeth’

Daw ei sylwadau ddiwrnod ar ôl i’r Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt rybuddio fod angen mwy o ‘ddisgyblaeth’ ar y gorfforaeth.

Dywedodd Jeremy Hunt hefyd na allai ddiystyru’r posibilrwydd o ostwng pris y drwydded:

“Mae’n rhaid i’r BBC fyw ar yr un blaned â phawb arall,” meddai. “Rhaid iddyn nhw ddeall bod gweddill y Llywodraeth, ac eithrio’r Gwasanaeth Iechyd a datblygu rhyngwladol, yn edrych ar doriadau o 25% ar gyfartaledd.”

Llun: Yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt (Anthony Devlin/Gwifren PA)