Cynyddu maint testun

Golwg360



Cysgod cyn-arweinydd dros etholiad y Blaid Lafur?

Awst 29, 2010 14:42

Wrth gyhoeddi ei hunangofiant yr wythnos yma bydd y cyn-brif weinidog Tony Blair yn rhoi ei gyfweliad gwleidyddol mawr cyntaf ers iddo adael ei swydd yn 2007.

Bydd yn cael ei holi am awr gyfan gan Andrew Marr mewn rhaglen arbennig ar BBC2 nos Fercher – fel y bydd aelodau Llafur yn paratoi ar gyfer dewis arweinydd newydd.

Gyda’r papurau pleidleisio’n dechrau cyrraedd yr aelodau o ganol yr wythnos ymlaen, mae’r hunangofiant, A Journey, ynghyd â’r cyfweliad, yn debyg o dynnu sylw at 13 mlynedd Llafur mewn grym.

Mae cynnwys yr hunangofiant wedi cael ei warchod yn ofalus ac mae Tony Blair a’i gyhoeddwr Random House wedi gwrthod gwerthu hawliau i unrhyw bapur newydd gyhoeddi detholiadau ohono.

Irac

Mae disgwyl fodd bynnag i’r cyn-brif weinidog gyfiawnhau ei ymosodiad ar Irac a’i gydweithrediad â chyn-arlywydd America, George W Bush – y ddau beth y mae wedi cael ei feirniadu fwyaf yn eu cylch.

Mae’n sicr hefyd y bydd sylwebwyr gwleidyddol yn chwilio am fanylion newydd am ei berthynas â Gordon Brown, ei ganghellor a’i olynydd fel prif weinidog.

Roedd eisoes wedi cyhoeddi y bydd yr holl elw o’r llyfr yn cael ei gyfrannu at y Lleng Brydeinig i fynd at ganolfan chwaraeon newydd i filwyr wedi eu hanafu.

Er bod swyddfa’r cyn-brif weinidog yn mynnu mai ei fwriad o’r dechrau oedd rhoi’r elw at elusen, mae ymgyrchwyr yn erbyn y rhyfel yn ei gyhuddo o geisio “prynu maddeuant” am y brwydro gwaedlyd yn Afghanistan ac Irac.

Ymgeiswyr

Gyda phum ymgeisydd yn y ras i olynu Gordon Brown fel arweinydd y Blaid Lafur, mae’n ymddangos mai’r ymgeisydd sy’n tueddu agosaf at Tony Blair, sef David Miliband, yw’r ffefryn o ychydig.

Barn sylwebwyr yw ei fod fymryn ar y blaen i’w frawd Ed, gyda bwlch cymharol sylweddol rhyngddyn nhw a’r tri ymgeisydd arall, Ed Balls, Andy Burnham a Diane Abbot.

Llun: Tony Blair yn cael ei holi gan Andrew Marr pan oedd yn Brif Weinidog (Johnny Green/Gwifren PA)