Mae un o brif benseiri Llafur Newydd wedi rhybuddio y bydd ei blaid yn wynebu cyfnod hir fel gwrthblaid os bydd yn troi’r cloc yn ôl at Hen Lafur o dan arweinydd newydd.
Wrth awgrymu’n ei fod yn cefnogi David Miliband, rhybuddiodd yr Arglwydd Mandelson yn erbyn y cyfeiriad y byddai ei frawd iau Ed Miliand yn dewis arwain Llafur.
“Os oes arno ef neu unrhyw un arall eisiau creu dyfodol cyn-Llafur Newydd i’r blaid, yna fe fydd yn gyflym yn canfod ei hun mewn cul-de-sac etholiadol,” meddai.
Mae Mandelson yn cyhuddo dau o hoelion wyth ei blaid, Neil Kinnock a Roy Hattersley, sydd wedi datgan cefnogaeth i Ed Miliand, o fod eisiau troi’r cloc yn ôl.
“Plaid wleidyddol ydyn ni, nid eglwys, ac mae arnon ni angen cefnogaeth pleidleiswyr, ac os rhown y gorau i gydnabod hynny, yna rydym am fynd yn ôl i’r blynyddoedd hir hynny o wrthblaid a wnaeth gymaint o ddrwg i ni a’n gwlad,” meddai.
“Os byddwch chi’n cau’r drws ar Lafur newydd, rydych chi’n cau’r drws yn wynebau miliynau o bleidleiswyr sydd wedi pleidleisio dros ein plaid.”
Gallai cefnogaeth Mandelson – a chefnogaeth debygol gan Tony Blair ei hun yr wythnos yma – fod yn hwb sylweddol i David Miliband yn erbyn ei frawd yn y ras i arwain Llafur.
Gyda’r papurau pleidleisio’n cael eu hanfon allan yr wythnos yma, mae’r frwydr wedi dod yn ras dau geffyl glir rhwng y ddau frawd, gyda’r tri arall, Ed Balls, Andy Burnham a Diane Abbot yn sylweddol y tu ôl.